xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 21 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru baratoi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, y mae'n rhaid iddo osod blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer awdurdodau tân ac achub a chaiff ddarparu canllawiau. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dyroddi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub (Cymru) 2005 ym Mawrth 2005 yn rhinwedd Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/760 (Cy.64)).

Mae'r Gorchymyn hwn yn adolygu'r Fframwaith Cenedlaethol a ddyroddwyd eisoes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gosodir yr adolygiadau yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.