RHAN 5Trefniadau Gweinyddol

Osgoi dyblygu

22.—(1Rhaid i hawliad am daliad o ran lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth gynnwys datganiad wedi'i lofnodi gan yr aelod, neu rhaid anfon y cyfryw ddatganiad gyda'r hawliad, a rhaid datgan yn y datganiad nad yw'r aelod wedi gwneud ac na fydd yn gwneud unrhyw hawliad arall mewn cysylltiad â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef.

(2Ni chaniateir gwneud unrhyw daliad i berson o dan unrhyw ddarpariaeth yn adran 176 o Ddeddf 1972 mewn cysylltiad â mater y mae taliad wedi'i wneud mewn cysylltiad ag ef i'r person hwnnw yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau cynllun o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hyn.

Talu lwfansau

23.  Rhaid i unrhyw daliad o ran lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth i aelod o banel apêl a gyfansoddir yn unol â rheoliadau o dan adran 94 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) gael ei wneud gan yr awdurdod sy'n cynnal yr ysgol neu'r ysgolion y cyfansoddwyd y panel apêl mewn perthynas â hi neu â hwy.

Cofnodion o lwfansau

24.—(1Rhaid i awdurdod gadw cofnod o 'r taliadau y mae'n eu gwneud yn unol â'r Rheoliadau hyn neu ag unrhyw gynllun a wneir yn unol â hwy.

(2Rhaid i gofnod o'r fath —

(a)pennu enw'r derbynnydd a swm a natur pob taliad; a

(b)bod ar gael, ar bob adeg resymol, i'w archwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol (o fewn yr ystyr yn adran 270(1) o Ddeddf 1972) yn ardal yr awdurdod.

(3Caiff person y mae ganddo hawl i archwilio cofnod o dan baragraff (2) wneud copi o unrhyw rhan ohono o dalu'r cyfryw ffi resymol ag y byddo'r awdurdod yn gofyn amdani.

Cyhoeddusrwydd

25.—(1Rhaid i awdurdod, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud neu ddiwygio unrhyw gynllun a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn, wneud trefniadau i'w gyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod.

(2Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn y mae'r cynllun yn ymwneud â hi, rhaid i awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno o dan y cynllun i bob aelod sy'n gynghorydd mewn cysylltiad â phob un o'r canlynol—

(a)lwfans sylfaenol;

(b)lwfans cyfrifoldeb arbennig; ac

(c)lwfans gofal.

(3Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob un o'r aelodau mewn cysylltiad â'r canlynol—

(a)lwfans teithio

(b)lwfans cynhaliaeth; ac

(c)lwfans aelodau cyfetholedig.

(1)

1998 p.31; diwygiwyd adran 94 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.31), adran 51, gweler Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1398) (Cy.112).