RHAN 6Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Aelodaeth y Panel27
1
Rhaid i gyfansoddiad y Panel a benodir o dan reoliad 26 fod fel a ganlyn: Cadeirydd ac Is-gadeirydd, ynghyd â thri aelod arall.
2
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi un aelod o'r Panel yn Gadeirydd y Panel.
3
Nid yw unrhyw berson i fod yn aelod o'r Panel os yw wedi'i anghymwyso yn rhinwedd paragraff (4).
4
Mae'r personau a ganlyn wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Panel —
a
aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o Dy'r Cyffredin, o Dŷ'r Arglwyddi, o Senedd Ewrop, o awdurdod, o gyngor tref neu gyngor cymuned; neu
b
person sydd wedi'i anghymwyso11 rhag bod yn aelod o awdurdod neu rhag cael ei wneud yn aelod o awdurdod ac eithrio fel swyddog yng nghyflogaeth awdurdod.