xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi, gyda diwygiadau, ddarpariaethau Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 (“Rheoliadau 1988”). Mae Rheoliadau 1988 a'r holl ddiwygiadau canlynol wedi'u diddymu o ran Cymru yn unol â rheoliad 18 ac Atodlen 2.

Mae'r Rheoliadau yn darparu bod pobl sydd naill ai'n cael budd-daliadau gwladwriaeth penodol neu sydd ar incwm isel yn cael peidio â thalu ffioedd penodol, ac ad-daliad am ffioedd penodol, sef ffioedd a fyddai'n daladwy fel arall o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, a chael taliad am dreuliau teithio sy'n cael eu hysgwyddo wrth sicrhau rhai o wasanaethau'r GIG (treuliau teithio GIG). Mae rheoliad 3 yn diffinio treuliau teithio GIG a threuliau teithio tramor GIG. Mae rheoliad 4 yn nodi'r ffioedd GIG perthnasol.

Mae'r prif newidiadau mewn perthynas â pheidio â chodi ffioedd GIG a thalu ffioedd GIG, o Reoliadau 1988, fel a ganlyn: yn sgil dileu ffioedd mewn perthynas â chyffuriau a chyfarpar a gyflenwir i gleifion sydd wedi'u cofrestru gydag Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru, neu sydd wedi'u cofrestru gydag Ymarferwyr Cyffredinol yn Lloegr ond y mae ganddynt gerdyn hawl dilys yn unol â Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007, nid yw'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer peidio â chodi ffioedd nac ar gyfer talu ffioedd am gyflenwi cyfarpar fel gwalltiau gosod, staesiau ffabrig, bronglymau llawfeddygol a hosanau elastig, gan fod cyflenwi eitemau o'r fath gan y Byrddau Iechyd Lleol a'r Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru wedi'i drafod yn y Rheoliadau hynny.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth sy'n ymwneud â hawliau. Mae Rheoliad 5 yn llywodraethu'r hawl i gael taliad llawn am dreuliau teithio a'r hawl i beidio â thalu'r cyfan o ffioedd GIG penodol. Mae Rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu'n rhannol a pheidio â thalu'n rhannol. Nid yw'n ofynnol i bersonau sy'n cael budd-daliadau gwladwriaeth penodol neu sydd â hawl i gael credydau treth penodol wneud cais am eu hawliau o dan y Rheoliadau hyn ar y sail bod eu hincwm a'u hadnoddau cyfalaf wedi'u hasesu eisoes at ddibenion eu hawl i gael y budd-dal neu'r credyd treth. Mae personau eraill sy'n dymuno gwneud cais am hawliau o dan y Rheoliadau hyn yn gorfod gwneud cais yn unol â darpariaethau rheoliad 7. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi hysbysiadau o'u hawliau i'r ceiswyr llwyddiannus.

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaeth ynghylch talu ac ad-dalu. Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu treuliau teithio GIG. Pan fydd yr hawl wedi'i sefydlu, mae'r swm sy'n ddyledus yn cael ei gyfrifo a'i dalu naill ai gan ddarparwr y gwasanaethau neu gan y corff yn y gwasanaeth iechyd a wnaeth y trefniadau ar gyfer y gwasanaethau. Mae rheoliadau 10 ac 11 yn cynnwys darpariaeth sy'n ymwneud ag ad-dalu mewn unrhyw achos lle mae person sydd â hawl i gael taliad am dreuliau teithio neu hawl i beidio â thalu ffi wedi ysgwyddo'r treuliau mewn gwirionedd neu wedi talu'r ffi. Mae rheoliad 12 yn galluogi darparwr gwasanaethau sydd wedi gwneud taliad mewn perthynas â threuliau teithio penodol gael ad-daliad mewn achosion lle cafodd y gwasanaethau eu darparu o dan gytundeb â chorff arall. Mae rheoliad 13 yn ymdrin â thalu ac ad-dalu rhai treuliau teithio tramor GIG.

Mae Rhan 4 ac Atodlen 1 yn ymwneud â'r dull ar gyfer penderfynu ar hawliau personau penodol nad oes ganddynt hawl awtomatig i beidio â thalu ac i gael taliadau am eu bod yn cael budd-daliadau gwladwriaeth penodol neu gredydau treth penodol. Mae incwm, cyfalaf ac anghenion y ceisydd (ac os yw'n berthnasol, incwm, cyfalaf ac anghenion teulu'r ceisydd) yn cael eu cyfrifo. Mae'r cyfrifo hwn yn cael ei wneud drwy ddefnyddio addasiad ar ddarpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (“Rheoliadau 1987”) fel y'u nodir yn Atodlen 1. Y rheswm am ddatgymhwyso Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth (Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol ac Amrywiol 2002 (“Rheoliadau 2002”) yn rheoliad 14(5)(c), yw hyn: yn rhinwedd Rheoliadau 2002 nid oes gan bobl dros 60 oed hawl mwyach i gael cymhorthdal incwm ac maent wedi'u hepgor o Reoliadau 1987. Er mwyn cadw sefyllfa ceiswyr o'r fath mewn perthynas â thalu treuliau teithio GIG a pheidio â thalu ffioedd GIG penodol, mae'r diwygiadau a wnaed i Reoliadau 1987 gan Reoliadau 2002 wedi'u datgymhwyso.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys nifer o newidiadau o Reoliadau 1988 sy'n fân ddiwygiadau drafftio neu'n ddiwygiadau drafftio canlyniadol ac sy'n cymryd i ystyriaeth bod llawer o'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan gynnwys Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, wedi'i gydgrynhoi yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.