xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1CYFFREDINOL A CHYFLWYNO

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “aelwyd” (“household”) yw —

(a)

grŵp o bobl a chanddynt gyfeiriad cyffredin yn unig neu'n brif breswylfa ac sydd naill ai'n rhannu un pryd y dydd neu'n rhannu'r llety byw yn y breswylfa honno; neu

(b)

unig neu brif breswylfa person sengl nad yw'n rhannu nac un pryd y dydd na'r llety byw yn y breswylfa honno â pherson arall;

mae i “anghydfod masnach” yr ystyr a roddir i “trade dispute” yn adran 35(1) o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995;

mae i “cartref gofal” yr ystyr a roddir i “care home” yn adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1);

ystyr “ceisydd” (“claimant”) yw person sy'n gwneud cais am beidio â thalu ffi, taliad neu ad-daliad yn unol â rheoliad 7 neu 10;

ystyr “contract blwydd-dal” (“annuity contract”) yw contract sy'n darparu ar gyfer taliadau bob hyn a hyn gan ddechrau ar ddyddiad sydd wedi'i ddatgan neu ddyddiad amodol ac sy'n parhau am gyfnod penodedig neu drwy gydol oes y blwydd-dal;

mae i “contract GIG” yr ystyr a roddir i “NHS contract” yn adran 7(1) o'r Ddeddf;

rhaid i “credyd cynilion credyd pensiwn” (“pension credit savings credit”) gael ei ddehongli yn unol ag adrannau 1 a 3 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(2);

ystyr “credyd treth gwaith” (“working tax credit”) yw credyd treth gwaith o dan Ddeddf Credydau Treth 2002(3);

ystyr “credyd treth plentyn” (“child tax credit”) yw credyd treth plant o dan adran 8 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

mae i “cwrs o driniaeth” yr ystyr a roddir i “course of treatment” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (1);

mae i “cwrs o driniaeth frys” yr ystyr a roddir i “urgent course of treatment” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006;

ystyr “cyfradd lawn” (“full rate”) yw'r gyfradd a bennwyd o dan adran 26(2) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948;

ystyr “cyfradd safonol” (“standard rate”) yw'r gyfradd safonol a bennwyd yn unol ag adran 22(2) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948;

ystyr “cymhorthdal incwm” (“income support”) yw cymhorthdal incwm o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, ac mae'n cynnwys ychwanegiad treuliau personol, ychwanegiad trosiannol arbennig ac ychwanegiad trosiannol fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Trosiannol) 1987(4);

mae i “cynllun pensiwn galwedigaethol” yr ystyr a roddir i “occupational pension scheme” gan adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993(5);

ystyr “cynllun pensiwn personol” (“personal pension scheme”) yw cynllun pensiwn personol —

(a)

fel y'i diffinnir yn adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993; neu

(b)

fel y'i diffinnir yn adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn (Gogledd Iwerddon) 1993(6);

ystyr “darparwr” (“provider”) yw darparwr unrhyw wasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(1)(a);

ystyr “dros y môr” (“abroad”) yw unrhyw le y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw —

(a)

yn achos cais o dan reoliad 7, dyddiad y cais; a

(b)

yn achos cais o dan reoliad 10(2), y dyddiad y cafodd y ffi GIG neu'r treuliau teithio GIG eu talu;

ystyr “dyddiad y cais” (“date of the claim”) yw'r dyddiad y bydd cais a wneir o dan reoliad 7 neu 10 yn dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “elfen anabledd” (“disability element”) yw elfen anabledd y credyd treth gwaith fel y'i pennwyd yn adran 11(3) o Ddeddf Credydau Treth 2002;

ystyr “elfen anabledd difrifol” (“severe disability element”) yw elfen anabledd difrifol y credyd treth gwaith fel y'i pennwyd yn adran 11(6)(d) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (y gyfradd uchaf);

mae i “enillion” yr ystyr a roddir i “earnings” yn rheoliadau 35 a 37 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;

mae i “ffi GIG” (“NHS charge” ) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

rhaid i “gwarant credyd pensiwn” (“pension credit guarantee”) gael ei ddehongli yn unol ag adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002;

mae i “gwasanaethau deintyddol sylfaenol perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant primary dental services” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006;

mae i “incwm perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant income” yn adran 7(2) o Ddeddf Credydau Treth 2002;

mae i “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm” yr ystyr a roddir i “income-based jobseeker’s allowance” gan adran 1(4) o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995;

mae i “myfyriwr amser-llawn” yr ystyr a roddir i “full time student” yn rheoliad 61 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;

mae i “pâr” yr ystyr a roddir i “couple” yn adran 137 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

ystyr “partner” (“partner”) —

(a)

os yw'r ceisydd yn aelod o bâr, yw'r aelod arall o'r pâr hwnnw,

(b)

os yw'r ceisydd yn briod yn aml-gymar â dau neu fwy o aelodau o'i aelwyd, yw unrhyw aelod o'r fath;

mae i “person ifanc” yr ystyr a ragnodir i “young person” yn rheoliad 14 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;

ystyr “person sengl” (“single person”) yw person nad oes ganddo bartner ac nad yw'n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc, ac nad yw'n aelod o'r un aelwyd â phlentyn neu berson ifanc;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 16 oed;

ystyr “plentyn neu berson ifanc dibynnol” (“dependent child or young person”) yw unrhyw blentyn neu berson ifanc sy'n cael ei drin fel pe bai'n gyfrifoldeb i'r ceisydd neu i bartner y ceisydd, os yw'r plentyn hwnnw neu'r person ifanc hwnnw'n aelod o aelwyd y ceisydd;

mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys maes awyr, porthladd i fferri neu orsaf drenau ryngwladol ym Mhrydain Fawr y mae siwrnai ryngwladol yn dechrau oddi yno;

ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd (“health care professional”) yw person sy'n aelod o broffesiwn sy'n cael ei reoleiddio gan gorff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(7);

ystyr “Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth” (“State Pension Credit Regulations”) yw Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(8);

ystyr “Rheoliadau Cymhorthdal Incwm” (“the Income Suport Regulations”) yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(9);

ystyr “y Rheoliadau Ffioedd” (“the Charges Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007(10);

ystyr “terfyn cyfalaf” (“capital limit”) —

(a)

yn achos person sy'n byw yn barhaol mewn cartref gofal neu mewn llety a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adrannau 21 i 24 a 26 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(11) yw'r swm a ragnodwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 22(5) o'r Ddeddf honno, a

(b)

yn achos unrhyw berson arall, y swm a ragnodwyd at ddibenion adran 134(1) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(12);

mae i “teulu” yr ystyr a roddir i “family” gan adran 137(1) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 fel y mae'n gymwys i gymhorthdal incwm, ac eithrio —

(a)

yn rheoliad 5(1)(ch), mewn perthynas â pherson sy'n cael lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm mae iddo yr ystyr a roddir yn adran 35 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995(13),

(b)

yn rheoliadau 5(1)(d) ac 8(2) mae iddo yr ystyr a ddyrennir gan reoliad 2(2) o Reoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002(14), ac

(c)

os oes cais wedi'i wneud am gymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(15), mae'n golygu y ceisydd lloches sydd wedi gwneud y cais hwnnw ac unrhyw ddibynnydd, fel y'i diffinnir yn adran 94 o'r Ddeddf honno, y mae wedi'i gynnwys yn y cais hwnnw, a dylai'r cyfeiriadau at “teulu” yn rheoliadau 5(2)(c) ac 8(1), (3) a (7) gael eu dehongli yn unol â hynny;

mae i “treuliau teithio GIG” (“NHS travelling expenses”) a “treuliau teithio tramor GIG” (“NHS foreign travelling expenses”) yr ystyron a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “wythnos” (“week”) yw cyfnod o 7 diwrnod sy'n dechrau am ganol nos rhwng dydd Sadwrn a dydd Sul;

mae i “ymddiriedolaeth GIG” yr ystyr a roddir i “NHS trust” yn adran 18 o'r Ddeddf.

Treuliau teithio GIG

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “treuliau teithio GIG” (“NHS travelling expenses”) yw'r treuliau teithio y mae'n angenrheidiol i berson eu hysgwyddo —

(a)i fod yn bresennol yn y canlynol —

(i)un o ysbytai'r gwasanaeth iechyd,

(ii)unrhyw sefydliad arall a reolir gan Ymddiriedolaeth GIG neu Fwrdd Iechyd Lleol, neu

(iii)unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig,

at ddibenion darparu unrhyw wasanaethau (ac eithrio gwasanaethau meddygol personol neu ddeintyddol personol a ddarperir o dan Rannau 4 a 5 o'r Ddeddf) o dan ofal ymgynghorydd yn unol â Rhannau 1 a 2 o'r Ddeddf; a

(b)i deithio i borthladd ym Mhrydain Fawr er mwyn teithio dros y môr i gael gwasanaethau a ddarperir yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 10 o'r Ddeddf a pharagraff 18 o Atodlen 3 iddi.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “treuliau teithio tramor GIG” (“NHS foreign travelling expenses”) yw'r treuliau teithio y mae'n angenrheidiol i berson eu hysgwyddo wrth deithio dros y môr o borthladd ym Mhrydain Fawr i gael gwasanaethau yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 10 o'r Ddeddf a pharagraff 18 o Atodlen 3 iddi.

(3Mae treuliau teithio GIG a threuliau teithio tramor GIG yn cynnwys treuliau teithio cydymaith mewn achos lle mae'r person y darperir gwasanaethau ar ei gyfer naill ai —

(a)yn blentyn; neu

(b)yn berson y mae ei anhwylder meddygol yn golygu bod arno angen cydymaith, ym marn meddyg sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaethau neu, os yw'n briodol, ym marn proffesiynolyn gofal iechyd arall sy'n ymwneud â felly.

(4Rhaid i berson sy'n dymuno dibynnu ar hawl i gael treuliau teithio GIG —

(a)gwneud cais am hawl o dan reoliad 7, oni bai ei fod yn berson nad yw'n ofynnol iddo wneud cais o'r fath yn rhinwedd rheoliad 5(1); a

(b)gwneud cais am daliad treuliau teithio o dan reoliad 9.

(5Mae swm unrhyw dreuliau teithio GIG y mae gan berson hawl i'w gael o dan y Rheoliadau hyn —

(a)yn gorfod cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at gost y teithio drwy ddefnyddio'r drafnidiaeth rataf sy'n rhesymol o roi sylw i oed ac anhwylder meddygol y person ac unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill; a

(b)os teithir mewn car preifat, yn cael cynnwys lwfans milltiroedd a threuliau parcio car.

(6Dim ond os yw'r corff gwasanaeth iechyd a wnaeth y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau dros y môr yn cytuno ar y dull teithio a chost y teithio a'r angen neu'r diffyg angen cydymaith cyn i'r treuliau gael eu hysgwyddo y mae gan berson hawl i gael taliad treuliau teithio tramor GIG.

Ffioedd GIG y gellir peidio â'u codi

4.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “ffi GIG” (“NHS charge”) yw unrhyw ffi a fyddai fel arall yn daladwy —

(a)yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 121(1) a (2) o'r Ddeddf, am gyflenwi cyffuriau, moddion, cyfarpar a gwasanaethau fferyllol;

(b)yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 125 o'r Ddeddf mewn perthynas â ffioedd am wasanaethau deintyddol perthnasol.

(2Rhaid i berson sy'n dymuno dibynnu ar hawl o dan y Rheoliadau hyn i beidio â thalu ffi GIG —

(a)gwneud cais am hawl o dan reoliad 7 neu reoliad 10, oni bai ei fod yn berson nad yw'n ofynnol iddo wneud cais o'r fath yn rhinwedd rheoliad 5(1); a

(b)darparu unrhyw ddatganiad neu dystiolaeth o hawl y gofynnir amdanynt o dan y Rheoliadau Ffioedd.

(11)

O.S. 2007/121 (Cy.11). Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1.4.07.

(12)

1948 p.29.

(13)

1992 p.4. Y Rheoliadau perthnasol yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 O.S. 1987/1967.