ATODLEN 1Darpariaeshau Trosiannol

Rheoliad 12

Ad-dalu ffioedd1

1

Os oes ffi wedi'i thalu o dan Reoliadau Ffioedd 2001 gan neu ar ran person a oedd adeg y taliad yn esempt rhag y gofyniad i dalu'r ffi honno o dan reoliad 8 o'r Rheoliadau hynny, gall cais am ad-dalu'r ffi gael ei wneud yn unol â pharagraff (2) gan neu ar ran y person hwnnw.

2

Rhaid i'r cais am ad-daliad —

a

cael ei wneud i'r person neu'r corff a bennir yn y dderbynneb a roddir o dan reoliad 3(8), 4(6), 5(6), 6(5), neu 7(5) o Reoliadau Ffioedd 2001 fel y person neu'r corff y mae'n rhaid gwneud cais am ad-dalu ffioedd iddo;

b

cael ei wneud mewn unrhyw ffurf a modd y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt ar gyfer y ceisydd, unrhyw ddosbarth o geisydd neu geiswyr yn gyffredinol;

c

cael ei wneud o fewn tri mis o'r dyddiad y cafodd y cyffur neu'r cyfarpar eu cyflenwi i'r ceisydd neu o fewn unrhyw gyfnod y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei ganiatáu am reswm da;

ch

cael ei gyflwyno ynghyd â'r dderbynneb am y ffi a dalwyd a datganiad o'r seiliau dros yr esemptiad.

3

Yn achos ffi o dan reoliad 5 o ran cyfarpar a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i Reoliadau Ffioedd 2001, mae rheoliad 11(3) o Reoliadau Ffioedd 2001 yn gymwys.

4

Mae trefniadau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd o dan reoliad 11(4) o Reoliadau Ffioedd 2001 gan berson sydd â hawl i esemptiad yn parhau i fod yn effeithiol at ddibenion paragraff 1.

Tystysgrifau rhagdalu2

1

Os bydd person wedi cael tystysgrif ragdalu yn rhinwedd gwneud unrhyw daliad yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau Ffioedd 2001, a bod y cyfnod perthnasol fel y'i diffinnir gan baragraff (3) heb ddirwyn i ben, gellir gwneud cais am ad-daliad, gan neu ar ran y person hwnnw neu ei ystâd, yn unol â pharagraff (4) o ran pob mis cyfan ar ôl 1 Ebrill 2007.

2

Cyfrifir yr ad-daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fel a ganlyn—

a

yn achos tystysgrif ragdalu ddilys am 4 mis, un chwarter o'r swm rhagnodedig a dalwyd am bob mis cyfan pan yw neu pan oedd y dystysgrif ragdalu'n ddilys;

b

yn achos tystysgrif ragdalu ddilys am 12 mis, un rhan o ddeuddeg o'r swm rhagnodedig a dalwyd am bob mis cyfan pan yw neu pan oedd y dystysgrif ragdalu'n ddilys;

ac at ddibenion y cyfrifo hwn, ystyr “mis cyfan” yw mis sy'n dechrau ar ddyddiad fis calendr union ar ôl y dyddiad pan ddaeth y dystysgrif ragdalu'n ddilys a chan ddiweddu ar y dyddiad sy'n union o flaen y dyddiad hwnnw yn y mis canlynol.

3

Ym mharagraff (1) ystyr “y cyfnod perthnasol” yw cyfnod dilysrwydd y dystysgrif ragdalu heb gynnwys y mis y gwneir y cais am ad-daliad o dan baragraff (1) ar ei gyfer.

4

Rhaid i geisiadau o dan y rheoliad hwn gael eu gwneud i'r Bwrdd Iechyd Lleol a gafodd y swm rhagnodedig o dan reoliad 10 o Reoliadau Ffioedd 2001 a rhaid bod tystysgrif gyda'r cais (os rhoddwyd un) a datganiad yn cefnogi'r cais, a rhaid i'r cais a'r ad-daliad gael eu gwneud yn y fath fodd ac yn ddarostyngedig i'r amodau hynny y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt.

ATODLEN 2Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol

Rheoliad 13

Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 19921

1

Diwygir Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 fel a ddarperir yn y paragraff hwn.

2

Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn lle'r diffiniad o “the Charges Regulations” rhodder y canlynol—

  • “the Charges Regulations” means the National Health Service (Free Prescriptions and Charges for Drugs and Appliances) (Wales) Regulations 2007

3

Ym mharagraff (7) o Ran 2 (Gwasanaethau Hanfodol) o Atodlen 2 dileer y term “or (1A)”;

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 19882

1

Diwygir Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 1988 fel a ddarperir yn y paragraff hwn.

2

Yn lle paragraff (1)(b) o reoliad 7 rhodder y paragraff canlynol—

1

b

provide any declaration of entitlement required under regulation 3(8) or 4(3) of the National Health Service (Free Prescriptions and Chrages for Drugs and Appliances) (Wales) Regualtions 2007.

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 20043

1

Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 fel a ddarperir yn y paragraff hwn.

2

Ym mharagraff 11A o Ran 1 o Atodlen 6 (Telerau Contractol Eraill)—

a

yn is-baragraff (1) yn lle'r diffiniad o “the Charges Regulations” rhodder y canlynol—

  • “the Charges Regulations” means the National Health Service (Free Prescriptions and Charges for Drugs and Appliances) (Wales) Regulations 2007

b

yn is-baragraff (5)(a) yn lle'r term “4(1)” rhodder y term “4(3)”.

ATODLEN 3RHEOLIADAU A DDIRYMWYD

Rheoliad 14

(1)

(2)

(3)

Rheoliadau a ddirymwyd

Cyfeirnod

Rhychwant y dirymiad

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001

OS 2001/1358 (Cy.86)

Y Rheoliadau cyfan ac eithrio rheoliadau 11(3) a (4). Rheoliadau (3) a (4) gydag effaith o 1 Gorffennaf 2007.

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001

OS 2001/1359 (Cy.196)

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau ynghylch Rhagnodi gan Nyrsys Atodol ac Annibynnol) (Cymru) 2003

OS 2003/2624 (Cy.252)

Rheoliad 4

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol etc) (Presgripsiynau Amlroddadwy) (Diwygio) (Cymru) 2004

OS 2004/1018 (Cy.115)

Rheoliadau 1(4), 7 ac 8

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004

OS 2004/1605 (Cy.164)

Y Rheoliadau cyfan

Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Diwygiadau Canlyniadol) (Nyrsio a Bydwreigiaeth) 2004

OS 2004/1771

Paragraff 29 o Ran 2 o Atodlen 2

Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Rhif 2) 2004

OS 2004/1016 (Cy.113)

Paragraff 24 o Atodlen 1

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2005

OS 2005/427 (Cy.44)

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005

OS 2005/1915 (Cy.158)

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2006

OS 2006/943 (Cy.92)

Y Rheoliadau cyfan

Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Gwasanaethau Deintyddol Personol (Cymru) 2006

OS 2006/946 (Cy.95)

Paragraff 4 o Atodlen 1

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006

OS 2006/1792 (Cy.188)

Y Rheoliadau cyfan