RHAN 1CYFFREDINOL

Arweiniad plant4

1

Rhaid i bob awdurdod lleol gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r gwasanaeth mabwysiadu (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad plant”) ac mae'n orfodol mai datganiad ydyw o'r materion a restrir yn Atodlen 2.

2

Rhaid i'r awdurdod ddarparu copi o'r arweiniad plant ar gyfer—

a

y Cynulliad Cenedlaethol;

b

pob darpar fabwysiadydd y mae'r awdurdod wedi lleoli gydag ef blentyn i'w fabwysiadu; ac

c

pob plentyn (yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth y plentyn hwnnw) a all gael ei leoli, neu sydd wedi ei leoli, gan yr awdurdod i'w fabwysiadu.