RHAN 2Hysbysu am ddeorfeydd a heidiau bridio
Hysbysu am ddeorfeydd4
1
Rhaid i feddiannydd deorfa ddofednod â chyfanswm capasiti deor o 1000 neu fwy o wyau roi'r wybodaeth a geir yn Atodlen 1, paragraff 1 i Weinidogion Cymru—
a
o fewn tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; neu
b
yn achos y cyfryw ddeorfa a sefydlir ar ôl y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, o fewn tri mis ar ôl i'r ddeorfa gael ei sefydlu.
2
Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.
3
Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth honno o dan unrhyw ddeddfiad arall.