- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6. Mae'r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddaliad lle y cedwir un neu fwy o heidiau bridio o 250 o leiaf o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus ac mae unrhyw gyfeiriad yn y Bennod hon at feddiannydd yn gyfeiriad at feddiannydd y cyfryw ddaliad.
7.—(1) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y disgwylir i bob haid fridio o 250 o leiaf o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus gyrraedd y daliad.
(2) Rhaid ei hysbysu o leiaf ddwy wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i'r haid gyrraedd.
8.—(1) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y mae'n disgwyl i bob haid fridio ar y daliad—
(a)symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy; a
(b)cyrraedd diwedd y gylchred gynhyrchu.
(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf ddwy wythnos cyn bod disgwyl i'r haid fridio symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy.
9.—(1) Rhaid i'r meddiannydd gymryd samplau o bob haid fridio ar y daliad ar yr adegau a ganlyn—
(a)pan fo'r adar yn yr haid yn gywion;
(b)pan fo'r adar yn yr haid yn bedair wythnos oed;
(c)dwy wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i'r haid ddechrau dodwy neu symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy; ac
(ch)bob ail wythnos yn ystod y cyfnod dodwy.
(2) Rhaid i'r gwaith samplu o dan baragraff 1(a) i (c) gael ei wneud yn unol ag Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn a rhaid i waith samplu o dan baragraff 1(ch) gael ei wneud yn unol â phwynt 2.2.2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (samplu rheolaidd a digymell gan y gweithredydd).
10.—(1) Rhaid i'r meddiannydd anfon y samplau a gymerir o dan erthygl 9 i labordy a gymeradwywyd at ddibenion profi am bresenoldeb salmonela.
(2) Rhaid iddo anfon y samplau o fewn—
(a)24 o oriau ar ôl eu cymryd; neu
(b)o fewn 48 o oriau ar ôl eu cymryd os yw'n gosod y samplau mewn oergell ar dymheredd rhwng 1° a 4° C cyn gynted ag y bo'n ymarferol iddo wneud hynny ar y diwrnod y'u cymerir.
(3) Rhaid iddo sicrhau bod y samplau'n cael eu nodi cyn iddynt gael eu hanfon er mwyn galluogi'r labordy a gymeradwywyd i gadarnhau—
(a)enw'r meddiannydd;
(b)cyfeiriad y daliad lle y cedwir yr haid fridio y daeth y samplau ohoni;
(c)y math o samplau;
(ch)y dyddiad y cymerwyd y samplau;
(d)dull adnabod yr haid fridio y daeth y samplau ohoni;
(dd)oed yr haid fridio y daeth y samplau ohoni;
(e)p'un ai haid o ddodwywyr fridwyr neu o fridwyr cig yw'r haid fridio y daeth y samplau ohoni; ac
(f)statws yr haid fridio y daeth y samplau ohoni yn y pyramid bridio.
11.—(1) Rhaid i'r meddiannydd—
(a)cadw cofnod o'r wybodaeth a geir yn Atodlen 3, paragraff 1, mewn cysylltiad â phob sampl a gymerir yn unol ag erthygl 9; a
(b)erbyn 30 Mehefin a 31 Rhagfyr bob blwyddyn, roi i Weinidogion Cymru yr wybodaeth honno mewn cysylltiad â samplu yr ymgymerir ag ef yn y chwe mis cyn ei hysbysu.
(2) Rhaid iddo gadw'r cofnod ym (1)(a) am ddwy flynedd ar ôl y dyddiad y cymerwyd y sampl.
12.—(1) Rhaid i'r meddiannydd gadw cofnod o'r wybodaeth yn Atodlen 3, paragraff 2, mewn cysylltiad â symud i'r daliad neu o'r daliad unrhyw ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus neu eu cywion neu eu hwyau.
(2) Rhaid iddo gadw'r cofnod am ddwy flynedd ar ôl dyddiad symud y ffowls.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: