- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru)2007(1) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (Dehongli), yn y man priodol, mewnosoder—
“ystyr “cynnyrch cyfansawdd” (“composite product”) yw bwyd a fwriedir i'w fwyta gan bobl sy'n cynnwys cynhyrchion wedi'u prosesu sy'n dod o anifeiliaid yn ogystal â chynhyrchion sy'n dod o blanhigion ac mae'n cynnwys y cynhyrchion hynny pan fo prosesu cynnyrch sylfaenol yn rhan gyfannol o gynhyrchu'r cynnyrch terfynol, ond nad yw'n cynnwys bwydydd sy'n cynnwys unrhyw gynnyrch llaeth sy'n deillio o wledydd heb eu rhestru yn Atodiad 1 i Benderfyniad y Comisiwn 2004/438/EC (sy'n gosod amodau iechyd anifeiliaid ac amodau iechyd y cyhoedd ac ardystiadau milfeddygol ar gyfer dod â llaeth wedi'i drin â gwres, cynhyrchion wedi'u seilio ar laeth a llaeth amrwd a fwriedir i'w fwyta gan bobl i mewn i'r Gymuned) (OJ Rhif L92, 12.4.2005, t. 47) ac yr ymdrinir ag ef megis petai wedi ei ddarparu ar gyfer y cyfryw wledydd.”.
(3) Yn rheoliad 2 (Dehongli), yn lle'r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—
“ystyr “cynnyrch” (“product”) yw unrhyw gynnyrch sy'n dod o anifeiliaid ac a restrir ym Mhennod 2, 3, 4, 5, 12, 15, 16, 17, 19, 20, 21, 23, 28, 30, 31, 35, 41, 42, 43, 51 neu 97 o'r Tabl yn Atodiad I i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC (ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion fydd yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd archwilio ar y ffin o dan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC)(2), ond nad yw'n cynnwys—
cynhyrchion cyfansawdd a bwydydd a restrir yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC; neu
cynhyrchion cyfansawdd nad ydynt yn cynnwys cig neu gynhyrchion cig, pan fo llai na hanner y cynnyrch yn gynnyrch wedi'i brosesu sy'n dod o anifeiliaid, ar yr amod bod cynhyrchion o'r fath—
yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol neu eu bod, wrth gael eu cynhyrchu, yn amlwg wedi bod drwy broses gyflawn o goginio neu driniaeth â gwres drwy gyfanrwydd eu sylweddau, fel bod unrhyw gynnyrch amrwd wedi'i annatureiddio;
wedi'u dynodi'n glir eu bod wedi'u bwriadu i'w bwyta gan bobl;
wedi'u pacio'n ddiogel neu wedi'u selio mewn cynwysyddion glân; a
bod dogfen fasnachol yn mynd gyda hwynt â'u bod wedi'u labelu mewn iaith sy'n iaith swyddogol i Aelod-wladwriaeth, fel bod y ddogfen honno a'r labelu gyda'i gilydd yn rhoi gwybodaeth ar natur, ansawdd a nifer y pecynnau o'r cynhyrchion cyfansawdd, gwlad eu tarddiad, y gweithgynhyrchydd a'r cynhwysyn;”.
(4) Yn lle paragraff (8) o reoliad 4 (Esemptiad ar gyfer cynhyrchion a awdurdodwyd a mewnforion personol) rhodder—
“(8) Yn y rheoliad hwn ystyr “cig” (“meat”) “cynhyrchion cig” (“meat products”) “llaeth” (“milk”) a “cynhyrchion llaeth” (“milk products”) yw cynhyrchion o'r mathau hynny a restrir ym Mhenodau 2 a 4 o'r Tabl yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC.”.
(5) Yn Atodlen 1 (Amodau Mewnforio), Rhan VIII (Cynhyrchion Amrywiol), ar ôl paragraff 19 mewnosoder —
20. Penderfyniad y Comisiwn 2007/275 (ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion fydd yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd archwilio ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496 a 97/78/EC) (OJ Rhif L166, 4.5.2007, t. 9).”.
OJ Rhif L116, 4.5.2007, t.9.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: