xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwygio

2.—(1Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru)2007(1) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (Dehongli), yn y man priodol, mewnosoder—

ystyr “cynnyrch cyfansawdd” (“composite product”) yw bwyd a fwriedir i'w fwyta gan bobl sy'n cynnwys cynhyrchion wedi'u prosesu sy'n dod o anifeiliaid yn ogystal â chynhyrchion sy'n dod o blanhigion ac mae'n cynnwys y cynhyrchion hynny pan fo prosesu cynnyrch sylfaenol yn rhan gyfannol o gynhyrchu'r cynnyrch terfynol, ond nad yw'n cynnwys bwydydd sy'n cynnwys unrhyw gynnyrch llaeth sy'n deillio o wledydd heb eu rhestru yn Atodiad 1 i Benderfyniad y Comisiwn 2004/438/EC (sy'n gosod amodau iechyd anifeiliaid ac amodau iechyd y cyhoedd ac ardystiadau milfeddygol ar gyfer dod â llaeth wedi'i drin â gwres, cynhyrchion wedi'u seilio ar laeth a llaeth amrwd a fwriedir i'w fwyta gan bobl i mewn i'r Gymuned) (OJ Rhif L92, 12.4.2005, t. 47) ac yr ymdrinir ag ef megis petai wedi ei ddarparu ar gyfer y cyfryw wledydd..

(3Yn rheoliad 2 (Dehongli), yn lle'r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw unrhyw gynnyrch sy'n dod o anifeiliaid ac a restrir ym Mhennod 2, 3, 4, 5, 12, 15, 16, 17, 19, 20, 21, 23, 28, 30, 31, 35, 41, 42, 43, 51 neu 97 o'r Tabl yn Atodiad I i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC (ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion fydd yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd archwilio ar y ffin o dan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC)(2), ond nad yw'n cynnwys—

(a)

cynhyrchion cyfansawdd a bwydydd a restrir yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC; neu

(b)

cynhyrchion cyfansawdd nad ydynt yn cynnwys cig neu gynhyrchion cig, pan fo llai na hanner y cynnyrch yn gynnyrch wedi'i brosesu sy'n dod o anifeiliaid, ar yr amod bod cynhyrchion o'r fath—

(i)

yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol neu eu bod, wrth gael eu cynhyrchu, yn amlwg wedi bod drwy broses gyflawn o goginio neu driniaeth â gwres drwy gyfanrwydd eu sylweddau, fel bod unrhyw gynnyrch amrwd wedi'i annatureiddio;

(ii)

wedi'u dynodi'n glir eu bod wedi'u bwriadu i'w bwyta gan bobl;

(iii)

wedi'u pacio'n ddiogel neu wedi'u selio mewn cynwysyddion glân; a

(iv)

bod dogfen fasnachol yn mynd gyda hwynt â'u bod wedi'u labelu mewn iaith sy'n iaith swyddogol i Aelod-wladwriaeth, fel bod y ddogfen honno a'r labelu gyda'i gilydd yn rhoi gwybodaeth ar natur, ansawdd a nifer y pecynnau o'r cynhyrchion cyfansawdd, gwlad eu tarddiad, y gweithgynhyrchydd a'r cynhwysyn;.

(4Yn lle paragraff (8) o reoliad 4 (Esemptiad ar gyfer cynhyrchion a awdurdodwyd a mewnforion personol) rhodder—

(8) Yn y rheoliad hwn ystyr “cig” (“meat”) “cynhyrchion cig” (“meat products”) “llaeth” (“milk”) a “cynhyrchion llaeth” (“milk products”) yw cynhyrchion o'r mathau hynny a restrir ym Mhenodau 2 a 4 o'r Tabl yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC..

(5Yn Atodlen 1 (Amodau Mewnforio), Rhan VIII (Cynhyrchion Amrywiol), ar ôl paragraff 19 mewnosoder —

Cynhyrchion cyfansawdd

20.  Penderfyniad y Comisiwn 2007/275 (ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion fydd yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd archwilio ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496 a 97/78/EC) (OJ Rhif L166, 4.5.2007, t. 9)..

(2)

OJ Rhif L116, 4.5.2007, t.9.