2007 Rhif 1835 (Cy.159)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721.

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion yr adran honno, o ran mesurau ym maes milfeddygaeth, i ddiogelu iechyd y cyhoedd2.

Enwi a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 27 Mehefin 2007.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 20052

1

Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 20053 yn unol â pharagraffau (2) i (4).

2

Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) —

a

mae'r diffiniadau canlynol o offerynnau Cymunedol penodol wedi'u rhoi yn lle'r diffiniadau o'r offerynnau Cymunedol sy'n ymddangos yn union ar ôl y diffiniad o “cig ffres”—

  • mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”, “Penderfyniad 2007/411”, “Rheoliad 999/2001”, “Rheoliad 178/2002”, “Rheoliad 852/2004”, “Rheoliad 853/2004”, “Rheoliad 854/2004”, “Rheoliad 882/2004”, “Rheoliad 1688/2005”, “Rheoliad 2073/2005”, “Rheoliad 2074/2005”, “Rheoliad 2075/2005”, “Rheoliad 2076/2005”, “Rheoliad 575/2006”, “Rheoliad 1664/2006”, “Rheoliad 1665/2006”, “Rheoliad 1666/2006”, “Rheoliad 1791/2006” a “Rheoliad 1923/2006” yr ystyr a roddir iddynt yn eu trefn yn yr Atodlen;

b

rhoddir yr ymadrodd “Mhenderfyniad 2007/411” yn lle'r ymadrodd “Mhenderfyniad 2005/598” sy'n ymddangos yn y diffiniad cyfun o “deunydd” a “cynnyrch”.

3

Ym mharagraff (4)(b) o reoliad 5 (arolygu cynhyrchion a chymryd meddiant ohonynt), rhoddir y geiriau “y rheoliad hwnnw” yn lle'r geiriau “yr adran honno”.

4

Yn lle'r Atodlen (diffiniadau o ddeddfwriaeth Gymunedol) rhoddir yr Atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwenda ThomasO dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

YR ATODLENYR ATODLEN A RODDIR YN LLE'R ATODLEN I REOLIADAU CYNHYRCHION BUCHOL (CYFYNGU AR EU RHOI AR Y FARCHNAD) (CYMRU) (RHIF 2) 2005

Rheoliad 2(4)

YR ATODLENDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

Rheoliad 2(1)

  • Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac yn diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC4;

  • ystyr “Penderfyniad 2007/411” (“Decision 2007/411”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC5;

  • ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurff trosglwyddadwy penodol6 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1923/2006;

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd7 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 575/2006;

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd8 fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid9 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

  • ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl10 fel y'i diwygiad ddiwethaf gan Reoliad 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005 a Rheoliad 2076/2005;

  • ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglyn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau11 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

  • ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden12;

  • ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd13;

  • ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/200414 fel y'u diwygiwyd gan Reoliad 1664/2006;

  • ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodedig ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig15 fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1665/2006;

  • ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/200416 fel y'u diwygiwyd gan Reoliad 1666/2006;

  • ystyr “Rheoliad 575/2006” (“Regulation 575/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer ac enwau Paneli Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop17;

  • ystyr “Rheoliad 1664/2006” (“Regulation 1664/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1664/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran gweithredu mesurau ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid a fwriedir i'w bwyta gan bobl a diddymu mesurau gweithredu penodol18;

  • ystyr “Rheoliad 1665/2006” (“Regulation 1665/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1665/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2975/2005 sy'n gosod rheolau penodedig ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig19;

  • ystyr “Rheoliad 1666/2006” (“Regulation 1666/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1666/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2006, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor20);

  • ystyr “Rheoliad 1791/2006” (“Regulation 1791/2006”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 sy'n addasu Rheoliadau a Phenderfyniadau penodol ym meysydd rhydd symudiad nwyddau, rhydd symudiad personau, cyfraith cwmnïau, polisi cystadlu, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth milfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, trethiant, ystadegau, ynni, amgylchedd, cydweithredu ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, perthnasoedd allanol, cydbolisi ar faterion tramor a materion diogelwch, a sefydliadau, oherwydd bod Bwlgaria a Romania wedi ymaelodi21); ac

  • ystyr “Rheoliad 1923/2006” (“Regulation 1923/2006”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1923/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurff trosglwyddadwy penodol22.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 (O.S. 2005/3296 Cy. 254) drwy—

a

diweddaru'r diffiniadau o offerynnau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(2)(a) a (4));

b

rhoi cyfeiriad at y Penderfyniad gan y Comisiwn a ddiddymodd ac a ddisodlodd Benderfyniad cynharach gan y Comisiwn yn lle'r cyfeiriad at y Penderfyniad cynharach hwnnw sy'n ymddangos yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(2(b)); ac

c

cywiro gwall drafftio yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(3)).

2

Rhoes Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 ei heffaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 205/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22). Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na chaniateir i gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 gael eu rhoi ar y farchnad.

3

Mae Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC wedi'i ddiddymu a'i ddisodli bellach gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC (OJ Rhif L155, 15.6.2007, t.74).

4

Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC wedi'i mynegi mewn termau sydd yn union yr un fath ag Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC ac mae Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ei heffaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC.

5

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.