xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 (O.S. 2005/3296 Cy. 254) drwy—

(a)diweddaru'r diffiniadau o offerynnau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(2)(a) a (4));

(b)rhoi cyfeiriad at y Penderfyniad gan y Comisiwn a ddiddymodd ac a ddisodlodd Benderfyniad cynharach gan y Comisiwn yn lle'r cyfeiriad at y Penderfyniad cynharach hwnnw sy'n ymddangos yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(2(b)); ac

(c)cywiro gwall drafftio yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(3)).

2.  Rhoes Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 ei heffaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 205/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22). Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na chaniateir i gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 gael eu rhoi ar y farchnad.

3.  Mae Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC wedi'i ddiddymu a'i ddisodli bellach gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC (OJ Rhif L155, 15.6.2007, t.74).

4.  Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC wedi'i mynegi mewn termau sydd yn union yr un fath ag Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC ac mae Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ei heffaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC.

5.  Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.