- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac eithrio nad yw'n cynnwys y Trysorydd priodol y cyfeirir ato yn adran 5(1)(c) o'r Ddeddf honno (sy'n ymwneud â'r Deml Fewnol a Chanol);
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys sy'n atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod bwyd, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig ganddo, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd yn cael eu haseinio—
(a)drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(2), i awdurdod iechyd porthladd;
(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(3), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig; neu
(c)drwy orchymyn o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985(4), i awdurdod sengl ar gyfer sir fetropolitanaidd,
mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u haseinio felly iddo.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn fel y'i diwygiwyd o dro i dro.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: