xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2310 (Cy.181)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

4 Awst 2007

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Awst 2007

Yn dod i rym

31 Awst 2007

Mae Gweinidogion Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd(1) bellach ynddynt hwy gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2007 ac y maent yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae “addysg” (“education”) yn cynnwys ymchwil ôl-raddedig, heblaw yng nghwrs cyflogaeth;

ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a ffurfir gan Wladwriaethau'r AEE;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr pan y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn dibynnu ar a yw'r flwyddyn academaidd honno'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst, neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu chyn 31 Rhagfyr, yn eu trefn;

ystyr “CCAUC” (“HEFCW”) yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(3);

ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth lawnamser neu ran-amser:

ystyr “darparwr hyfforddiant” (“training provider”) yw person sy'n darparu hyfforddiant i aelodau o weithlu'r ysgolion o dan Ran 3 o Ddeddf 2005;

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005(4);

ystyr “dyfarniad” (“award”) yw dyfarniad ffioedd neu ddyfarniad cynhaliaeth neu'r ddau;

ystyr “dyfarniad addysg ôl-orfodol” (“post-compulsory education award”) yw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari neu lwfans arall a roddir gan awdurdod addysg lleol o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002(5);

ystyr “dyfarniad cynhaliaeth” (“maintenance award”) yw unrhyw ddyfarniad heblaw dyfarniad ffioedd;

ystyr “dyfarniad ffioedd” (“fees award”) yw dyfarniad sydd yn unig ar gyfer unrhyw ffioedd sy'n daladwy, gan eithrio unrhyw elfen o'r ffioedd hynny sy'n dâl cynhaliaeth;

ystyr “y Gymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd, fel y'i chyfansoddir o bryd i'w gilydd;

ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Aruba; Bermuda, Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Montserrat; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius a Sint Maarten); Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynysoedd Ascension a Tristan de Cunha); St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Ynysoedd Turks a Caicos a Wallis a Futuna;

ystyr “yr Ynysoedd” (“the Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

(2Er gwaethaf adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978(6) ni fydd adran 3(2) o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (lle mae'r cyfeiriadau at y Deyrnas Unedig yn cynnwys cyfeiriadau at yr Ynysoedd) yn gymwys at ddibenion dehongli'r Rheoliadau hyn.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn, ac unrhyw berson sydd yn gofalu am blentyn, a dylid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni-

(a)ei fod ef;

(b)bod ei briod neu ei bartner sifil;

(c)bod ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,

mewn cyflogaeth dros dro neu wedi bod mewn cyflogaeth felly y tu allan i'r ardal dan sylw.

(5At ddibenion paragraff (4), mae cyflogaeth dros dro yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir; ac

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.

(6At ddibenion rheoliadau 6, 7 ac 8, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai'r wedi bod yn preswylio felly oni bai-

(a)ei fod ef;

(b)bod ei briod neu ei bartner sifil;

(c)bod ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,

yn cael addysg lawnamser dros dro y tu allan i'r ardal dan sylw.

(7At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd nac o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall o'r ardaloedd hyn, neu o'r ddwy ohonynt,

i gael ei hystyried fel petai wedi bod erioed yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Gweithredoedd cyfreithlonLL+C

3.—(1Os oes gwahaniaethu yn codi o ganlyniad i hepgor y cyfan neu ran o unrhyw ffi (ar sail caledi ariannol neu fel arall), ni fydd dim sydd yn y Rheoliadau hyn yn cael ei ddehongli fel pe bai'n gwneud y gwahaniaethu hwnnw yn anghyfreithlon, pe bai wedi bod yn gyfreithlon oni fyddai'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

(2Os oes gwahaniaethu yn codi o ganlyniad i unrhyw reol cymhwyster ar gyfer dyfarniad, ni fydd dim sydd yn y Rheoliadau hyn yn cael ei ddehongli fel pe bai'n gwneud y gwahaniaethu hwnnw yn anghyfreithlon, pe bai wedi bod yn gyfreithlon oni fyddai'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Codi ffioeddLL+C

4.—(1Bydd yn gyfreithlon i'r sefydliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) i godi ffioedd uwch yn achos person nad yw'n dod o fewn yr Atodlen, nag a godir yn achos person sydd yn dod o fewn yr Atodlen.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn dod o fewn yr Atodlen os yw'n dod o'i mewn ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs.

(3Y sefydliadau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn yw'r sefydliadau—

(a)sydd o fewn y sector addysg uwch, gan gynnwys coleg, ysgol neu neuadd sy'n rhan o sefydliad o'r fath;

(b)sydd o fewn y sector addysg bellach:

(c)sy'n ddarparwyr hyfforddiant ac yn cael cymorth ariannol o dan adran 86 o Ddeddf 2005;

(ch)sy'n darparu addysg bellach ac a gynhelir gan awdurdod addysg lleol.

(4Nid yw'r rheoliad hwn yn gwneud yn gyfreithlon codi ffi sydd yn anghyfreithlon oherwydd amod a osodir o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Uwch 2004(7)

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Dyfarniadau gan awdurdodau addysg lleolLL+C

5.—(1Bydd yn gyfreithlon i awdurdod addysg lleol fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau o dan adrannau 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962(8) neu ar gyfer dyfarniadau addysg ôl-orfodol—

(a)nad ydynt yn ystyried rheoliad 2(4);

(b)sy'n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau ffioedd i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen, ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn paragraff 5, neu

(c)sy'n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau cynnal i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen, ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn paragraffau 5 a 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Taliadau gan yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion a chan CCAUCLL+C

6.—(1Bydd yn gyfreithlon i'r Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion(9) o dan adran 78 o Ddeddf 2005, a CCAUC o dan adran 86 o Ddeddf 2005, fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan unrhyw ddarparwr hyfforddiant y rhoddant grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

(2Bydd yn gyfreithlon i ddarparwr hyfforddiant sy'n cael cymorth ariannol o dan adran 78 a neu adran 86 o Ddeddf 2005 fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Taliadau gan CCAUCLL+C

7.—(1Bydd yn gyfreithlon i CCAUC fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sydd i'w gwneud i fyfyrwyr a hyfforddir (ac eithrio ar gwrs sy'n arwain at radd gyntaf) i addysgu personau dros oedran ysgol gan sefydliad y mae CCAUC yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

(2Bydd yn gyfreithlon i sefydliad y mae CCAUC yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo i'r pwrpas a ddisgrifir ym mharagraff (1) fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Taliadau gan Weinidogion CymruLL+C

8.—(1Bydd yn gyfreithlon i Weinidogion Cymru fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan sefydliad y maent yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 34 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

(2Bydd yn gyfreithlon i sefydliad y mae Gweinidogion Cymru yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau (pa fodd bynnag y'u disgrifir) sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

DirymuLL+C

9.—(1Dirymir y Rheoliadau canlynol o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1997(10);

(b)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Chymorth i Fyfyrwyr) (Y Swistir) 2003(11);

(c)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006(12); ac

(ch)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006(13).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

4 Awst 2007

ATODLENLL+C

1.  At ddibenion yr Atodlen hon—LL+C

ystyr “aelod o'r teulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) —

(a)

mewn perthynas â gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunan-gyflogedig ffin yr AEE neu berson hunan-gyflogedig yr AEE yw—

(i)

ei briod neu ei bartner sifil;

(ii)

ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

(b)

o ran person Swisaidd cyflogedig, person Swisaidd cyflogedig y ffin, person Swisaidd hunangyflogedig y ffin neu berson Swisaidd hunangyflogedig—

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;

(c)

o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil —

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;

(ch)

o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu ei bartner sifil;

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

(d)

o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004(14) ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud ac i breswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill barti, a'r Conffederasiwn Swisaidd, o'r llal, ar Rydd Symudiad Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(15) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(16) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(17);

ystyr “gweithiwr” (“worker”) o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE—

(a)

sy'n weithiwr yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig, ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr o Dwrci” (“Turkish worker”) yw gwladolyn o Dwrcai—

(a)

sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sydd, neu sydd wedi bod mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn o'r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn o'r GE” (“EC national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw —

(a)

o ran gwladolyn AEE, person sy'n hunan-gyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

(b)

o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunan-gyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE—

(a)

sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig, ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person Swisaidd cyflogedig” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd yn berson cyflogedig, ac eithrio person Swisaidd cyflogedig y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person Swisaidd cyflogedig y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

(a)

sy'n berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person Swisaidd hunangyflogedig” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, heblaw person Swisaidd hunangyflogedig y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person Swisaidd hunangyflogedig y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd —

(a)

sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bo dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—

(a)

a gafodd ei hysbysu gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn neu aros yn y Deyrnas Unedig er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei adnabod fel ffoadur;

(b)

a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hynny; ac

(c)

nad yw ei gyfnod o ganiatâd i ddod i mewn neu aros wedi dod i ben, neu ei fod wedi ei adnewyddu ac nad yw cyfnod yr adnewyddiad wedi dod i ben, neu fod apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)(18) mewn perthynas â'i ganiatâd i ddod i mewn neu aros; ac

(ch)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers pan gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros;

ystyr “wedi setlo” (“settled”) yw'r ystyr a roddir iddo gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(19).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. para. 1 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas UnedigLL+C

2.—(1Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs —

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), person na fu ei breswyliad yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â rheoliad 2(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. para. 2 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

3.  Person —

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd caffael yr hawl i breswylio'n barhaol ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd o'r cwrs;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos pan fu ei breswyliad fel y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, person a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. para. 3 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Ffoaduriaid ac aelodau o'u teuluoeddLL+C

4.—(1Person —

(a)sy'n ffoadur;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ei gydnabod yn ffoadur; ac

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person —

(a)sydd yn briod neu'n bartner sifil i ffoadur;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i ffoadur ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person —

(a)sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

(b)a oedd yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(c)a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(ch)sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. para. 4 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Personau â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ac aelodau o'u teuluLL+C

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros; a

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sydd yn briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches; ac

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sydd yn blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches; ac

(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. para. 5 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan- gyflogedig ac aelodau o'u teuluLL+C

6.—(1Person —

(a)sydd —

(i)yn weithiwr mudol AEE neu yn berson hunangyflogedig AEE;

(ii)yn berson Swisaidd cyflogedig neu'n berson Swisaidd hunan-gyflogedig;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr ffin yr AEE neu yn berson hunangyflogedig ffin yr AEE;

(v)yn berson Swisaidd cyflogedig y ffin neu'n berson Swisaidd hunangyflogedig y ffin; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), sy'n preswylop fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sydd yn wladolyn o'r GE ac yn dod o fewn paragraff (a)(i) neu (a)(iv) o is-baragraff (1);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Nid yw paragraff (b) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys os yw'r person yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. para. 6 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

7.  Person sydd—

(a)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sydd wedi bod fel arfer yn preswylio yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd â hawl i gymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar rydd symudiad gweithwyr(20), fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE(21).

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. para. 7 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arallLL+C

8.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)sydd wedi ymadael â'r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos pan oedd ei breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd a chanddo hawl i breswylio'n barhaol ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae'n wladolyn ohoni, neu y mae'r person y mae ef yn aelod o'i deulu mewn perthynas yn wladolyn ohoni.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. para. 8 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Gwladolion o'r GELL+C

9.—(1Person —

(a)sydd naill ai —

(i)yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu

(ii)yn aelod o deulu'r cyfryw berson;

(b)sydd yn dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig

(c)yn achos person sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(a)(i), sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch)yn achos person sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth berthnasol yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraffau (c) neu (ch) yn llwyr neu'n bennaf er mwyn cael addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel person sydd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y diriogaeth berthnasol yn unol â rheoliad 2(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. para. 9 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

10.—(1Person—

(a)sy'n wladolyn o'r GE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos pan oedd ei breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf er mwyn cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod y person yn wladolyn o'r GE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. para. 10 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Plant gwladolion o'r SwistirLL+C

11.  Person —

(a)sy'n blentyn i wladolyn o'r Swistir y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy'n preswylio fel arfer y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos lle'r oedd y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf er mwyn cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. para. 11 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Plant gweithwyr o DwrciLL+C

12.  Person —

(a)sy'n blentyn i weithiwr o Dwrci;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. para. 12 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, a ddaw i rym ar 31 Awst 2007, yn disodli'r Rheoliadau a restrir yn rheoliad 9.

Mae'r Rheoliadau yn darparu y bydd yn gyfreithlon, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn y Rheoliadau, gwahaniaethu rhwng rhai neu bob un o'r personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen, ac unrhyw berson arall. Fel arall, gallai gwahaniaethu o'r fath fod yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976. Ni ddylid dehongli dim yn y Rheoliadau fel petai'n gwneud yn anghyfreithlon unrhyw beth a fyddai wedi bod yn gyfreithlon pe na bai'r Rheoliadau wedi'u gwneud (rheoliad 3).

Mae rheoliad 4 yn darparu y bydd yn gyfreithlon i'r sefydliadau ym mharagraff (3) godi ffioedd uwch ar y bobl hynny na chyfeirir atynt yn yr Atodlen, na'r ffioedd a godir ar bobl y cyfeirir atynt yn yr Atodlen honno. Mae rheoliad 4(4) yn cyfeirio at adran 28 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Yr adran honno sy'n nodi'r amodau cyllido y caniateir eu gosod ar sefydliadau addysg uwch ynghylch ffioedd. Nid yw adran 28 eto wedi ei chychwyn. Mae rheoliad 4(4) yn darparu, pe bai sefydliad yn torri amod cyllido o dan adran 28, na fydd y Rheoliadau hyn yn darparu amddiffyniad.

Mae Rheoliad 5 yn ymwneud â rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau disgresiynol a wneir gan awdurdodau addysg lleol o dan adrannau 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962. Yn achos dyfarniadau ar gyfer ffioedd, caniateir cyfyngu'r cymhwyster i bawb yn yr Atodlen ac eithrio personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros. Yn achos dyfarniadau cynhaliaeth, caiff y rheolau cymhwyster eithrio personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros a gwladolion o'r GE. Caiff awdurdodau addysg lleol gyfyngu'r cymhwyster ymhellach drwy eithrio unrhyw un na fu'n preswylio fel arfer mewn ardal ddaearyddol berthnasol dros dro oherwydd gwaith.

Mae rheoliadau 6, 7 ac 8 yn ymwneud â hyfforddi athrawon ac â chyrff penodol sy'n cyllido'r ddarpariaeth o addysg a hyfforddiant. Maent yn darparu y bydd yn gyfreithlon i bob un o'r Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Gweinidogion Cymru, a'r sefydliadau a gyllidir ganddynt, fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu'r cymhwyster i'r rhai y cyfeirir atynt yn yr Atodlen.

Mae rheoliad 9 yn dirymu, mewn perthynas â Chymru, y Rheoliadau presennol sy'n llywodraethu ffioedd a dyfarniadau a'r Rheoliadau diwygio, yn ddarostyngedig i rai darpariaethau arbed.

Mae'r personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen yn cynnwys rhai sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig, ffoaduriaid, personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig, gweithwyr mudol o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir, gwladolion Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd a phlant gwladolion y Swistir a gweithwyr Twrcaidd. Er mwyn bod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig, rhaid ichi fod yn preswylio yno fel arfer, heb unrhyw gyfyngiad o dan gyfraith mewnfudo ar y cyfnod y caniateir ichi aros.

(1)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 2006/1458 o 8 Mehefin 2006 ymlaen. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O. S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(d) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

Diwygiwyd 1983 p.40. Adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p.56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), Atodlen 3, paragraff 5; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (c. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 21, paragraff 5 a Deddf Addysg 2005 (p.18), Atodlen14, paragraff 9. Diwygiwyd Adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1988, adran 44 ac Atodlen 4.

(3)

Sefydlwyd o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).

(8)

1962 p.12. Diddymwyd Deddf Addysg 1962 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn amodol ar ddarpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed i alluogi gwneud taliadau mewn cysylltiad â dyfarniadau a wnaed o dan y Ddeddf cyn ei diddymu a galluogi gwneud dyfarniadau mewn perthynas â chyrsiau a oedd yn dechrau cyn 1 Medi 1999 a rhai cyrsiau penodol a oedd yn dechrau ar ôl y dyddiad hwnnw.

(9)

Sefydlwyd yr Asiantaeth Hyfforddiant Athrawon o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994, ac o dan adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 newidiwyd ei henw i Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion. O dan adran 78 o Ddeddf Addysg 2005, caiff yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion ddarparu cymorth ariannol i unrhyw berson y gwêl yn dda wrth hyrwyddo'i hamcanion.

(14)

OJ L158, 30.4.2004, t77-123.

(15)

Cm. 4904.

(16)

Cmnd. 9171

(17)

Cmnd. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).

(18)

2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Hawlwyr etc.) 2004 (p.19), adran 26 ac Atodlenni 2 a 4, a Deddf Mewnfudo Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), adran 9.

(19)

1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61)

(20)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/SE 1968 (II) t.475).

(21)

Ystyr “Cytundeb yr EEA” yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 — Cm 2073, fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, Cm 2183.