xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, a ddaw i rym ar 31 Awst 2007, yn disodli'r Rheoliadau a restrir yn rheoliad 9.
Mae'r Rheoliadau yn darparu y bydd yn gyfreithlon, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn y Rheoliadau, gwahaniaethu rhwng rhai neu bob un o'r personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen, ac unrhyw berson arall. Fel arall, gallai gwahaniaethu o'r fath fod yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976. Ni ddylid dehongli dim yn y Rheoliadau fel petai'n gwneud yn anghyfreithlon unrhyw beth a fyddai wedi bod yn gyfreithlon pe na bai'r Rheoliadau wedi'u gwneud (rheoliad 3).
Mae rheoliad 4 yn darparu y bydd yn gyfreithlon i'r sefydliadau ym mharagraff (3) godi ffioedd uwch ar y bobl hynny na chyfeirir atynt yn yr Atodlen, na'r ffioedd a godir ar bobl y cyfeirir atynt yn yr Atodlen honno. Mae rheoliad 4(4) yn cyfeirio at adran 28 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Yr adran honno sy'n nodi'r amodau cyllido y caniateir eu gosod ar sefydliadau addysg uwch ynghylch ffioedd. Nid yw adran 28 eto wedi ei chychwyn. Mae rheoliad 4(4) yn darparu, pe bai sefydliad yn torri amod cyllido o dan adran 28, na fydd y Rheoliadau hyn yn darparu amddiffyniad.
Mae Rheoliad 5 yn ymwneud â rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau disgresiynol a wneir gan awdurdodau addysg lleol o dan adrannau 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962. Yn achos dyfarniadau ar gyfer ffioedd, caniateir cyfyngu'r cymhwyster i bawb yn yr Atodlen ac eithrio personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros. Yn achos dyfarniadau cynhaliaeth, caiff y rheolau cymhwyster eithrio personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros a gwladolion o'r GE. Caiff awdurdodau addysg lleol gyfyngu'r cymhwyster ymhellach drwy eithrio unrhyw un na fu'n preswylio fel arfer mewn ardal ddaearyddol berthnasol dros dro oherwydd gwaith.
Mae rheoliadau 6, 7 ac 8 yn ymwneud â hyfforddi athrawon ac â chyrff penodol sy'n cyllido'r ddarpariaeth o addysg a hyfforddiant. Maent yn darparu y bydd yn gyfreithlon i bob un o'r Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Gweinidogion Cymru, a'r sefydliadau a gyllidir ganddynt, fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu'r cymhwyster i'r rhai y cyfeirir atynt yn yr Atodlen.
Mae rheoliad 9 yn dirymu, mewn perthynas â Chymru, y Rheoliadau presennol sy'n llywodraethu ffioedd a dyfarniadau a'r Rheoliadau diwygio, yn ddarostyngedig i rai darpariaethau arbed.
Mae'r personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen yn cynnwys rhai sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig, ffoaduriaid, personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig, gweithwyr mudol o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir, gwladolion Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd a phlant gwladolion y Swistir a gweithwyr Twrcaidd. Er mwyn bod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig, rhaid ichi fod yn preswylio yno fel arfer, heb unrhyw gyfyngiad o dan gyfraith mewnfudo ar y cyfnod y caniateir ichi aros.