Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae “addysg” (“education”) yn cynnwys ymchwil ôl-raddedig, heblaw yng nghwrs cyflogaeth;

ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a ffurfir gan Wladwriaethau'r AEE;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr pan y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn dibynnu ar a yw'r flwyddyn academaidd honno'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst, neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu chyn 31 Rhagfyr, yn eu trefn;

ystyr “CCAUC” (“HEFCW”) yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(1);

ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth lawnamser neu ran-amser:

ystyr “darparwr hyfforddiant” (“training provider”) yw person sy'n darparu hyfforddiant i aelodau o weithlu'r ysgolion o dan Ran 3 o Ddeddf 2005;

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005(2);

ystyr “dyfarniad” (“award”) yw dyfarniad ffioedd neu ddyfarniad cynhaliaeth neu'r ddau;

ystyr “dyfarniad addysg ôl-orfodol” (“post-compulsory education award”) yw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari neu lwfans arall a roddir gan awdurdod addysg lleol o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002(3);

ystyr “dyfarniad cynhaliaeth” (“maintenance award”) yw unrhyw ddyfarniad heblaw dyfarniad ffioedd;

ystyr “dyfarniad ffioedd” (“fees award”) yw dyfarniad sydd yn unig ar gyfer unrhyw ffioedd sy'n daladwy, gan eithrio unrhyw elfen o'r ffioedd hynny sy'n dâl cynhaliaeth;

ystyr “y Gymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd, fel y'i chyfansoddir o bryd i'w gilydd;

ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Aruba; Bermuda, Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Montserrat; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius a Sint Maarten); Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynysoedd Ascension a Tristan de Cunha); St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Ynysoedd Turks a Caicos a Wallis a Futuna;

ystyr “yr Ynysoedd” (“the Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

(2Er gwaethaf adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978(4) ni fydd adran 3(2) o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (lle mae'r cyfeiriadau at y Deyrnas Unedig yn cynnwys cyfeiriadau at yr Ynysoedd) yn gymwys at ddibenion dehongli'r Rheoliadau hyn.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn, ac unrhyw berson sydd yn gofalu am blentyn, a dylid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni-

(a)ei fod ef;

(b)bod ei briod neu ei bartner sifil;

(c)bod ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,

mewn cyflogaeth dros dro neu wedi bod mewn cyflogaeth felly y tu allan i'r ardal dan sylw.

(5At ddibenion paragraff (4), mae cyflogaeth dros dro yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir; ac

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.

(6At ddibenion rheoliadau 6, 7 ac 8, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai'r wedi bod yn preswylio felly oni bai-

(a)ei fod ef;

(b)bod ei briod neu ei bartner sifil;

(c)bod ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,

yn cael addysg lawnamser dros dro y tu allan i'r ardal dan sylw.

(7At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd nac o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall o'r ardaloedd hyn, neu o'r ddwy ohonynt,

i gael ei hystyried fel petai wedi bod erioed yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

(1)

Sefydlwyd o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources