Taliadau gan yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion a chan CCAUC6.
(1)
Bydd yn gyfreithlon i'r Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion9 o dan adran 78 o Ddeddf 2005, a CCAUC o dan adran 86 o Ddeddf 2005, fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan unrhyw ddarparwr hyfforddiant y rhoddant grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.
(2)
Bydd yn gyfreithlon i ddarparwr hyfforddiant sy'n cael cymorth ariannol o dan adran 78 a neu adran 86 o Ddeddf 2005 fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.