Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 6

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/04/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Taliadau gan yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion a chan CCAUCLL+C

6.—(1Bydd yn gyfreithlon i'r Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion(1) o dan adran 78 o Ddeddf 2005, a CCAUC o dan adran 86 o Ddeddf 2005, fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan unrhyw ddarparwr hyfforddiant y rhoddant grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

(2Bydd yn gyfreithlon i ddarparwr hyfforddiant sy'n cael cymorth ariannol o dan adran 78 a neu adran 86 o Ddeddf 2005 fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 6 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

(1)

Sefydlwyd yr Asiantaeth Hyfforddiant Athrawon o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994, ac o dan adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 newidiwyd ei henw i Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion. O dan adran 78 o Ddeddf Addysg 2005, caiff yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion ddarparu cymorth ariannol i unrhyw berson y gwêl yn dda wrth hyrwyddo'i hamcanion.

Back to top

Options/Help