Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

Personau â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ac aelodau o'u teuluLL+C

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros; a

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sydd yn briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros;

[F1(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac]

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sydd yn blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

[F2(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,

yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ar y dyddiad hwnnw;]

[F3(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac]

(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.