Cytundeb Dysgu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a'r dyfarndal wythnosol

7.  Mae person cymwys yn cymhwyso i gael dyfarndal o lwfans cynhaliaeth addysg wythnosol a asesir o dan reoliad 5(2) neu (3) os yw wedi llofnodi Cytundeb Dysgu Rhan 1 ac—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (b) mae'r person cymwys, o ran wythnos y mae'r dyfarndal yn berthnasol iddi, wedi mynychu pob sesiwn ddysgu mewn cysylltiad â chwrs addysg cymwys; neu

(b)os nad yw'r person cymwys wedi mynychu'r gyfryw sesiwn o ran wythnos y mae'r dyfarndal yn berthnasol iddi, mae'r sefydliad addysgol cydnabyddedig wedi awdurdodi pob absenoldeb.