Rheoliad 3

YR ATODLENPersonau Cymwys

RHAN 1Dehongli

1.—(1At ddibenion yr Atodlen hon —

ystyr “aelod o'r teulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) —

(a)

o ran gweithiwr y ffin o'r AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunangyflogedig y ffin o'r AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE yw —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil;

(ii)

ei blentyn neu blentyn ei briod neu blentyn ei bartner sifil; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

(b)

o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig Swisaidd y ffin, person hunangyflogedig Swisaidd y ffin neu berson hunangyflogedig Swisaidd —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei blentyn neu blentyn ei briod neu blentyn ei bartner sifil;

(c)

o ran gwladolyn y GE nad yw'n hunangynhaliol —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;

(ch)

o ran gwladolyn y GE sy'n hunangynhaliol—

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

(d)

o ran gwladolyn y Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;

ystyr “AEE” (“EEA”) yw Ardal Economaidd Ewropeaidd, sef yr ardal sy'n ffurfio'r Gymuned Ewropeaidd, Gweriniaeth Iwerddon, Brenhiniaeth Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 29 Ebrill 2004(1) ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud ac i breswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill barti, a'r Conffedrasiwn Swisaidd, o'r llall, ar Rydd Symudiad Personau a lofnodwyd yn Luxembourg ar 21 Mehefin 1999(2) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “gweithiwr” (“worker”) yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE(3), yn ôl y digwydd;

ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr ac eithrio gweithiwr y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr y ffin o'r AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE —

(a)

sy'n weithiwr yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “gwladolyn y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom national”) yw person sydd i'w drin fel gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion y Cytuniadau Cymunedol;

ystyr “Gwladolyn y GE” (“EC national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth y Gymuned Ewropeaidd;

ystyr “gwladolyn yr AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o'r Wladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;

ystyr “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd;

ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd yn berson cyflogedig, ac eithrio person Swisaidd cyflogedig y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person cyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

(a)

sy'n berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

(a)

o ran gwladolyn AEE, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

(b)

o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

(a)

sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig y ffin o'r AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE —

(a)

sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—

(a)

a gafodd ei hysbysu gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir, er ystyried nad yw'n gymhwysol i'w gydnabod fel ffoadur, ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros yno;

(b)

a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hynny (ac na chafodd y caniatâd hwnnw ei ddirymu); ac

(c)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers pan gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros;

mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” yn adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(4).

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal plentyn a rhaid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.

(3At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i gael ei drin fel petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni bai—

(a)ei fod ef;

(b)bod ei briod neu ei bartner sifil;

(c)bod ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinell esgynnol, bod ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,

mewn cyflogaeth dros dro y tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu wedi bod mewn cyflogaeth felly, neu, yn ôl y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir.

(4At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn cynnwys —

(a)yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig; a

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir.

(5At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal —

(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd neu o'r AEE; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym neu wedi hynny wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall o'r ardaloedd hyn neu o'r ddwy ohonynt, i gael ei hystyried fel petai wedi bod erioed yn rhan o'r AEE.

RHAN 2Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

2.—(1Person sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs —

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio drwy fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig is-baragraff (2), person na fu ei breswyliad yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser.

(2Nid yw Paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

3.  Person —

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos pan fu ei breswyliad fel y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, person a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Ffoaduriaid a phersonau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros

4.—(1Person

(a)sydd yn ffoadur;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ei gydnabod fel ffoadur; ac

(c)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sydd yn briod neu'n bartner sifil i ffoadur;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(ch)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sydd yn blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

(b)a oedd ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches;

(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ac aelodau o'u teulu

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sydd yn yn briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ar y dyddiad pan wnaeth y person hwnnw gais am loches;

(c)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sydd yn yn blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros;

(b)a oedd ar y dyddiad pan wnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad pan wnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros gais am loches;

(ch)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teulu

6.—(1Person—

(a)sydd —

(i)yn weithiwr mudol o'r AEE neu yn berson hunangyflogedig o'r AEE;

(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr y ffin o'r AEE neu'n berson hunangyflogedig y ffin o'r AEE;

(v)yn berson cyflogedig Swisaidd y ffin neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd y ffin; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraph (1).

7.  Person—

(a)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd â hawl i gymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar rydd symudiad gweithwyr(5), fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall

8.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)sydd wedi ymadael â'r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos pan oedd ei breswyliad fel y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson a chanddo hawl i breswylio'n barhaol sydd ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 nseu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir y mae'n wladolyn ohoni neu y mae'r person y mae ef yn aelod o'i deulu yn wladolyn ohoni.

Gwladolion o'r GE

9.—(1Person sydd —

(a)naill ai —

(i)yn wladolyn y GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu

(ii)yn aelod o deulu'r cyfryw berson;

(b)yn dilyn cwrs addysg cymwys; neu

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel un sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

(3Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a phan fo person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod y person yn wladolyn y GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

10.—(1Person sydd—

(a)yn wladolyn y GE nad yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)pan fo'i breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, ac yr oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn cyfnod y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a phan fo person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod y person yn wladolyn o'r GE nad yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

Plant Gwladolion o'r Swistir

11.  Person —

(a)sy'n blentyn i wladolyn o'r Swistir ac sydd â hawl i gymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)pan fo'i breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, ac yr oedd fel arfer yn preswylio yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn cyfnod y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Plant gweithwyr o Dwrci

12.  Person —

(a)sy'n blentyn i weithiwr o Dwrci;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(1)

OJ L158, 30.04.2004, tt.77-123.

(2)

Cm. 4904.

(3)

ystyr “Cytundeb yr AEE” yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 — Cm 2073, fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, Cm. 2183.

(4)

1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61).

(5)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t2 (OJ/SE 1968 (II) t.475).