- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
9.—(1) Onid yw person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 10(10), rhaid iddo gyflwyno cais am gael ei ystyried yn fyfyriwr cymwys a chais am gymorth ar y ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru i'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
(2) Pan fo person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 10(10), rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ei fod yn dymuno gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw—
(a)30 Medi 2007, yn achos Canolfan Bologna;
(b)30 Medi 2007, yn achos Coleg Ewrop; ac
(c)30 Medi 2007, yn achos yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru estyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau os ydynt o'r farn bod amgylchiadau'r achos yn cyfiawnhau hynny.
10.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth ariannol mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) ac (8), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yng Ngholeg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd—
(a)os yw awdurdod academaidd y sefydliad Ewropeaidd sy'n darparu'r cwrs dynodedig yn hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig bod gan y person gyfle rhesymol o gael cynnig lle ar y cwrs hwnnw gan yr awdurdod academaidd; a
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu mewn cysylltiad â chais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 2.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) ac (8), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yng Nghanolfan Bologna—
(a)os yw awdurdod academaidd Canolfan Bologna yn ei enwi i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn drwy ysgrifennu at Weinidogion Cymru; a
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu mewn cysylltiad â chais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 2.
(4) Nid yw person yn fyfyriwr cymwys—
(a)os yw'r person hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (5), wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys;
(b)os yw wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c)os yw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu
(ch)os yw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad ei fod yn anffit i gael cymorth.
(5) Nid yw paragraff (4)(a) yn gymwys os yw'r person wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys ond bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, o roi sylw i amgylchiadau penodol y person hwnnw, ei bod yn briodol talu cymorth iddo mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.
(6) At ddibenion paragraff (4)(b) ac (c) ystyr “benthyciad” yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(7) Mewn achos pan fo'r cytundeb ar gyfer benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—
(a)cyn 25 Medi 1991; a
(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan na fu ganddo guradur y mae paragraff (4)(c) yn gymwys.
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i nifer y myfyrwyr cymwys beidio â bod—
(a)yn fwy nag 1, yn achos Canolfan Bologna;
(b)yn fwy na 2, yn achos Coleg Ewrop; ac
(c)yn fwy nag 1, yn achos yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.
(9) Caniateir mynd dros ben y nifer mwyaf o fyfyrwyr cymwys a bennir ar gyfer Sefydliad Ewrop yn is-baragraff (8) os yw'n angenrheidiol gwneud hynny, ym marn Gweinidogion Cymru, i ganiatáu i berson sy'n dod o fewn paragraff 12 Rhan 2 o Atodlen 2 gymhwyso i gael cymorth am flwyddyn academaidd berthnasol.
(10) At ddibenion is-baragraff (9), ystyr “blwyddyn academaidd berthnasol” yw blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond ar neu cyn 31 Awst 2008.
(11) Ni chaiff myfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn cysylltiad ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000, ar unrhyw adeg, gymhwyso i gael cymorth at fwy nag un cwrs dynodedig.
(12) Er gwaethaf paragraffau (2) i (4) ac yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (13) a (14), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn sefydliad Ewropeaidd—
(a)os cymhwysodd fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad—
(i)â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs cyfredol; neu
(ii)â chwrs dynodedig yr oedd yn bresennol arno yn yr un sefydliad Ewropeaidd ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a
(b)nad yw ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.
(13) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ffoadur neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr un sefydliad Ewropeaidd y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a
(b)statws ffoadur A neu statws ffoadur priod, partner sifil, rhiant neu lysriant i A, yn ôl y digwydd, i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(14) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr un sefydliad Ewropeaidd y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a
(b)y cyfnod pryd y caniateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi nac unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(15) Nid yw paragraffau (13) a (14) yn gymwys os dechreuodd y myfyriwr y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys cyn 1 Medi 2007.
(16) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd y camau a gwneud yr ymholiadau y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a yw person yn fyfyriwr cymwys.
(17) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu person y rhoddwyd gwybod iddynt amdano o dan baragraff (2)(a) neu a enwyd o dan baragraff (3)(a) a yw'n cymhwyso fel myfyriwr cymwys.
(18) Rhaid i berson sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (11) ei fod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs yng Ngholeg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd a pherson sy'n fyfyriwr cymwys yng Ngholeg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn rhinwedd paragraff (12), roi i Weinidogion Cymru, erbyn y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y maent yn gofyn amdani er mwyn penderfynu swm y cymorth sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd.
(19) Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law—
(a)os yw'r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 12 Rhan 2 o Atodlen 2, yw 1 Ionawr 2008 neu, yn achos grantiau sy'n daladwy o dan reoliadau 20(7) neu 22(6), 1 Awst 2008;
(b)mewn unrhyw achos arall, yw 30 Medi 2007 neu, yn achos grantiau sy'n daladwy o dan reoliadau 20(7) neu 22(6), 28 Chwefror 2008.
(20) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu myfyriwr cymwys o swm y cymorth sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd, os o gwbl.
11. Mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 10 os yw—
(a)yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs cyffelyb;
(b)yn gwrs llawnamser;
(c)yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac
(ch)yn cael ei ddarparu gan sefydliad Ewropeaidd.
12.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, bydd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y byddai'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol fel arfer yn disgwyl i'r myfyriwr gwblhau'r cwrs ynddi (“cyfnod cymhwystra”).
(2) Bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu pan fo'r myfyriwr—
(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle na fyddai Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo ei statws fel myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 13; neu
(b)yn rhoi'r gorau i'w gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr os ydynt wedi'u bodloni bod ymddygiad y myfyriwr wedi dangos ei fod yn anffit i gael cymorth.
(4) Os bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd pryd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs mewn gwirionedd, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw bryd, estyn neu adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfnod y byddant yn penderfynu arno.
(5) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o'r canlynol—
(a)terfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr;
(b)penderfynu nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso mwyach i gael unrhyw fath penodol o gymorth neu unrhyw swm penodol o gymorth;
(c)trin unrhyw gymorth sydd eisoes wedi'i dalu i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill yn unol â rheoliad 39.
13.—(1) Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad Ewropeaidd, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys—
(a)os byddant yn cael cais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;
(b)os ydynt wedi'u bodloni bod y myfyriwr cymwys wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs arall hwnnw ar argymhelliad yr awdurdod academaidd; ac
(c)os nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi terfynu.
(2) Mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth a aseswyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.
(3) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho ond cyn i'r myfyriwr gwblhau'r flwyddyn honno, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, wneud cais am grant arall o fath y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: