- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae myfyriwr cymwys annibynnol yn fyfyriwr cymwys ym mhob achos—
(a)lle y mae'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;
(b)lle y mae wedi bod yn briod neu y mae mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal mewn bodolaeth ai peidio;
(c)lle nad oes ganddo riant yn fyw;
(ch)lle mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt;
(d)lle nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am y cyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn Gweinidogion Cymru, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni ac nad oes modd cymodi;
(dd)lle y mae wedi bod o dan warchodaeth awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989(1) drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis sy'n diweddu ar neu ar ôl y dyddiad y daeth yn 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd o dan ofal neu reolaeth ei rieni ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol;
(e)lle y mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni naill ai—
(i)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu
(ii)na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan reoliad 8;
(f)lle y mae rheoliad 10(9) yn gymwys a lle y mae'r rhiant mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw ym marn Gweinidogion Cymru wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner ai peidio);
(ff)lle y mae'n aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;
(g)lle y mae—
(i)yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu
(ii)wedi gofalu am berson o dan 18 oed ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs presennol cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;
(ng)lle y mae wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod agregiad y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn mae'n cael ei drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—
(i)pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddiant i'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu'n lleol (“awdurdod perthnasol”);
(ii)pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn cysylltiad â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;
(iii)pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglyn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddiant neu ar gyfer cael budd-dal;
(iv)pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth neu ddyfarniad tebyg;
(v)pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd gwelyfod, anaf neu salwch.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: