2007 Rhif 2315 (Cy. 186 )

AMAETHYDDIAETH, CYMRUBWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) (Rhif 2) 2007

Wedi'u gwnaed

Wedi eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diodydd) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwydydd2.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys sy'n atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd3 fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.