Eithriadau

4.  Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys—

(a)os yr un person sy'n berchen ar bob anifail y daethpwyd ag ef i'r crynhoad;

(b)os bydd yr anifeiliaid i gyd yn dod o un set o fangreoedd y mae Gweinidogion Cymru wedi ei awdurdodi fel grwp meddiannaeth unigol o dan Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(1); ac

(c)os bydd y crynhoad anifeiliaid yn digwydd ar fangre y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arni neu'n ei meddiannu.