xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
8.—(1) Os bydd gan fangre drwyddedig fan palmantog i anifeiliaid, yn achos arwerthiant defaid magu yn yr hydref, caiff y trwyddedai wneud cais i Weinidogion Cymru am drwydded ychwanegol—
(a)i ganiatáu bod defaid yn yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref yn gallu mynd y tu allan i'r man palmantog i anifeiliaid; a
(b)i gynnal crynhoad anifeiliaid pellach o fewn 27 o ddiwrnodau o ddiwedd yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref.
(2) Rhaid i'r drwydded bennu'r man y tu allan i'r man palmantog i anifeiliaid y caiff y defaid fynd iddo a'r dyddiad pan ganiateir y mynediad hwnnw.
(3) Rhaid i'r drwydded beidio â chaniatáu mynediad i unrhyw ran o'r man y tu allan i'r man palmantog fwy nag unwaith bob 27 o ddiwrnodau.
(4) Rhaid i'r drwydded bennu'r mesurau bioddiogelwch y mae'n rhaid eu rhoi ar waith.
(5) Nid yw'r drwydded yn effeithio ar unrhyw grynhoad anifeiliaid a gynhelir yn y cyfnod o 27 o ddiwrnodau ar ôl diwedd yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref sydd yn digwydd yn unig ar y man palmantog i anifeiliaid y mae erthygl 7 yn gymwys iddo.
(6) Rhaid i unrhyw gais a wneir i Weinidogion Cymru o dan baragraff (1)—
(a)bod yn ysgrifenedig;
(b)datgan dyddiad arfaethedig yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref;
(c)datgan dyddiad arfaethedig unrhyw grynhoad anifeiliaid y mae'r trwyddedai am ei gynnal o fewn 27 o ddiwrnodau o ddiwedd yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref a natur y crynhoad anifeiliaid hwnnw; ac
(ch)dod i law Gweinidogion Cymru o leiaf bedair wythnos cyn dechrau'r arwerthiant defaid magu yn yr hydref.
(7) O ran unrhyw drwydded a ddyroddir o dan yr erthygl hon—
(a)rhaid iddi fod yn ysgrifenedig; a
(b)caniateir ei diwygio, ei hatal dros dro, neu ei dirymu drwy hysbysiad a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.