Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu, ar 1 Hydref 2007, y darpariaethau yn Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471) (“Rheoliadau 1966”) sy'n ymwneud â chwiliadau swyddogol o gofrestrau'r tiroedd comin a thystysgrifau chwiliad swyddogol i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny yn gymwys o ran Cymru ac maent yn gwneud diwygiad cysylltiedig i'r Rheoliadau hynny.

Bydd modd gwneud chwiliad o gofrestrau'r tiroedd comin yn hytrach drwy'r cwestiwn newydd a ychwanegwyd at Ran II o'r Ffurflen Ymholiadau Atodol i Awdurdod CON 29O ddiwygiedig.

Mae Rheoliad 35 (cyflenwi ffurflenni penodol) o Reoliadau 1966 hefyd wedi ei ddirymu oherwydd nad yw'r trefniadau i Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (Y Llyfrfa gynt) gyflenwi'r ffurflenni a bennir yn y rheoliad hwnnw yn parhau.

Cyhoeddwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar effaith y newid yn y trefniadau ar gyfer chwiliadau o gofrestrau'r tiroedd comin ar gyfer Deddf Tiroedd Comin 2006 (p.26). Gellir gweld yr asesiad ar wefan Defra yn www.defra.gov.uk.