- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
8.—(1) Pan fo'r cais a gynigir yn gwneud datganiad amgylcheddol yn ofynnol, caiff ceisydd arfaethedig roi hysbysiad o fwriad i gyflwyno cais i Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth sy'n angenrheidiol i nodi lleoliad a natur y treillio, a rhaid iddo nodi prif ganlyniadau amgylcheddol y treillio y cyfeirir atynt yn natganiad amgylcheddol y ceisydd arfaethedig.
(3) Cyn gynted ag y bydd cais o dan baragraff (1) yn dod i law, rhaid i Weinidogion Cymru —
(a)hysbysu'r cyrff ymgynghori priodol am enw a chyfeiriad y ceisydd arfaethedig ac am y ddyletswydd a roddir ar y cyrff ymgynghori hynny gan baragraff (4) i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r person hwnnw;
(b)hysbysu'r ceisydd arfaethedig am enwau a chyfeiriadau'r cyrff a hysbysir o dan is-baragraff (a); ac
(c)hysbysu'r ceisydd arfaethedig am enw a chyfeiriad pob un o adrannau'r llywodraeth a gaiff ddal gwybodaeth a all fod yn berthnasol i baratoi'r datganiad amgylcheddol.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i unrhyw gorff a hysbysir o dan baragraff (3)(a) neu unrhyw un o adrannau'r llywodraeth y rhoddir gwybod amdani i'r ceisydd arfaethedig o dan baragraff (3)(c), neu Weinidogion Cymru, os gofynnir iddynt wneud hynny gan y ceisydd arfaethedig, ddyfarnu p'un a oes ganddo yn ei feddiant, ganddi yn ei meddiant neu ganddynt yn eu meddiant unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i baratoi'r datganiad amgylcheddol ai peidio ac, os oes ganddo, ganddi neu ganddynt wybodaeth, rhaid i'r corff, yr adran neu Weinidogion Cymru sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i'r ceisydd arfaethedig.
(5) Nid yw paragraff (4) yn ei gwneud yn ofynnol datgelu unrhyw wybodaeth—
(a)y mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(1) yn gymwys iddi, os byddai gan y person sy'n dal yr wybodaeth yr hawl i'w hatal mewn ymateb i archiad a wneir yn unol â'r Rheoliadau hynny; neu
(b)a fyddai, mewn unrhyw achos arall, yn wybodaeth esempt pe gofynnid am iddi gael ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(2).
(6) Caiff corff neu unrhyw un o adrannau'r llywodraeth sy'n sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn unol â pharagraff (4) (ac eithrio Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu ar y cais) godi tâl rhesymol sy'n adlewyrchu'r gost o sicrhau bod yr wybodaeth berthnasol ar gael.
2000 p.36. Gweler yn benodol Ran II o'r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: