Rheoliadau 13(3) a 24

ATODLEN 3CYNEFINOEDD NATURIOL

Diffiniadau

1.—(1Yn yr Atodlen hon, ystyr “Natura 2000” yw'r rhwydwaith Ewropeaidd o ardaloedd cadwraeth arbennig, ac ardaloedd gwarchodaeth arbennig a ddynodwyd o dan y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt, y darparwyd ar eu cyfer gan Erthygl 3(1) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

(2At ddibenion paragraffau 3 a 4 o'r Atodlen hon, estynnir y diffiniad o “safle Ewropeaidd” yn rheoliad 2 drwy fewnosod y paragraff canlynol—

(d)safle sy'n lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth y mae ymgynghoriad wedi'i gychwyn mewn cysylltiad ag ef neu hi o dan Erthygl 5(1) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd, yn ystod y cyfnod ymgynghori neu wrth aros am benderfyniad y Cyngor o dan Erthygl 5(3).

Darpariaeth i warchod safleoedd Ewropeaidd: prosiectau treillio newydd

2.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys o ran pob prosiect y mae Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 6, 13(1) neu 18(3) y byddai'n brosiect cynefinoedd.

(2Rhaid i berson sy'n gwneud cais o dan reoliad 10, neu o dan reoliad 18, ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd angen rhesymol amdani ar Weinidogion Cymru at ddibenion yr asesiad o dan reoliad 13(3) neu'r rheoliad hwnnw fel y'i cymhwysir gan reoliad 19(3).

(3At ddibenion yr asesiad, rhaid i Weinidogion Cymru geisio cyngor gwyddonol priodol.

(4Caiff Gweinidogion Cymru gymryd camau priodol hefyd i gael barn y cyhoedd at ddibenion yr asesiad.

(5Yng ngoleuni'r casgliad y daethpwyd iddo yn yr asesiad, ac yn ddarostyngedig i is-baragraffau (7) ac (8) isod, dim ond ar ôl i Weinidogion Cymru ganfod na fydd y prosiect, naill ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd y cânt roi caniatâd ar gyfer y prosiect hwnnw.

(6Wrth bwyso a mesur a fyddai'r prosiect yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw—

(a)i'r modd y bwriedir cyflawni'r prosiect; a

(b)i unrhyw amodau neu gyfyngiadau y bwriedir i'r caniatâd a roddir fod yn ddarostyngedig iddynt.

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn credu y câi unrhyw effeithiau andwyol y prosiect ar gyfanrwydd safle Ewropeaidd eu hosgoi pe bai'r caniatâd yn ddarostyngedig i amodau, dim ond yn ddarostyngedig i'r amodau hynny y gall caniatâd gael ei roi.

(8Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni, am nad oes unrhyw atebion eraill, bod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol o fudd cyhoeddus tra phwysig (y cânt, yn ddarostyngedig i baragraff (9) isod, fod o natur gymdeithasol neu economaidd), caiff caniatâd gael ei roi ar gyfer y prosiect er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i'r safle.

(9Pan fo'r safle o dan sylw yn lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i'r rhesymau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (8) fod naill ai—

(a)yn rhesymau sy'n ymwneud ag iechyd dynol, diogelwch cyhoeddus neu ganlyniadau buddiol o'r pwys mwyaf i'r amgylchedd, neu

(b)rhesymau eraill o fudd cyhoeddus tra phwysig, cyhyd â bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw priodol i farn y Comisiwn Ewropeaidd wrth ddod i'r casgliad bod rhesymau o'r fath.

Darpariaeth i warchod safleoedd Ewropeaidd: adolygu caniatadau sy'n bodoli eisoes

3.—(1Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad y daw safle yn safle Ewropeaidd, wedi rhoi caniatâd o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer prosiect y mae Gweinidogion Cymru yn credu a fyddai wedi bod yn brosiect cynefinoedd pe bai'r safle Ewropeaidd wedi'i ddynodi ar y dyddiad y dyfarnwyd ar y cais am y caniatâd; a

(b)dim un o'r amgylchiadau a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn gymwys,

rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y daw'r safle yn safle Ewropeaidd, adolygu'r caniatâd.

(2Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(b) yw—

(a)bod y treillio y mae'r caniatâd yn ymwneud ag ef wedi'i gwblhau cyn i'r safle ddod yn safle Ewropeaidd;

(b)bod y caniatâd wedi'i roi yn ddarostyngedig i amod ynglyn â'r cyfnod yr oedd y treillio y mae'n ymwneud ag ef i'w ddechrau a bod y cyfnod hwnnw wedi dod i ben heb fod y treillio wedi'i ddechrau, a bod dim modd i'r caniatâd gael ei weithredu mwyach heb gael ei amrywio gan Weinidogion Cymru; ac

(c)bod y caniatâd wedi'i roi am gyfnod penodedig a bod y cyfnod hwnnw wedi dirwyn i ben.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru, at ddibenion adolygu'r caniatâd, wneud asesiad priodol o oblygiadau'r treillio i'r safle oherwydd ei amcanion cadwraeth; a bydd darpariaethau is-baragraffau (3), (4), (5) a (6) o baragraff 2 yn gymwys, gydag addasiadau priodol, mewn perthynas ag adolygiad o'r fath.

(4Pan fo caniatâd yn cael ei adolygu o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i berchennog neu ddeiliad y caniatâd, yn ôl y digwydd, ddarparu, o fewn cyfnod penodedig, unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae ar Weinidogion Cymru ei hangen er mwyn cynnal yr adolygiad ac, os na ddarperir yr wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennwyd, neu unrhyw gyfnod pellach y bydd Gweinidogion Cymru yn ei ganiatáu, caiff Gweinidogion Cymru ddirymu'r caniatâd heb gwblhau'r adolygiad.

(5Wedi iddynt adolygu caniatâd o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ei gadarnhau neu ei amrywio yn unol ag is-baragraff (6), (7) neu (8); neu

(b)mewn unrhyw achos arall, ei ddirymu.

(6Caniateir i'r caniatâd gael ei gadarnhau os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd.

(7Caniateir i'r caniatâd gael ei amrywio os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni y câi unrhyw effeithiau andwyol gwaith i gyflawni neu, yn ôl y digwydd, parhau â'r prosiect, eu hosgoi drwy amrywio'r caniatâd.

(8Yn ddarostyngedig i is-baragraff (10), os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni, am nad oes unrhyw atebion eraill, bod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol o fudd cyhoeddus tra phwysig (y cânt fod o natur gymdeithasol neu economaidd, ac eithrio mewn achosion y mae is-baragraff (9) yn gymwys iddynt), caniateir i'r caniatâd gael ei gadarnhau er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i'r safle.

(9Pan fo'r safle o dan sylw yn lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i'r rhesymau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (8) fod naill ai —

(a)yn rhesymau sy'n ymwneud ag iechyd dynol, diogelwch cyhoeddus neu ganlyniadau buddiol o'r pwys mwyaf i'r amgylchedd; neu

(b)yn rhesymau eraill o fudd cyhoeddus tra phwysig, cyhyd â bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw priodol i farn y Comisiwn Ewropeaidd wrth ddod i'r casgliad bod rhesymau o'r fath.

(10Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chadarnhau caniatâd o dan is-baragraff (8) mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (6) neu (7) yn gymwys.

(11Nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n effeithio ar unrhyw beth a wneir o dan y caniatâd cyn y dyddiad y daeth y safle yn safle Ewropeaidd.

Darpariaeth i warchod safleoedd Ewropeaidd: adolygiad o'r cytundebau sy'n bodoli eisoes

4.—(1Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y cychwyn, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i'r partïon i bob cytundeb y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, hysbysiad yn pennu dyddiad at ddibenion is-baragraff (5).

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw gytundeb ysgrifenedig —

(a)y mae perchennog wedi ymrwymo iddo cyn y dyddiad cychwyn; a

(b)y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei fod yn ymwneud â threillio sy'n gyfwerth â phrosiect cynefinoedd.

(3Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i safle ddod yn safle Ewropeaidd, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i'r partïon i bob cytundeb y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, hysbysiad yn pennu dyddiad at ddibenion is-baragraff (5).

(4Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw gytundeb —

(a)y mae perchennog wedi ymrwymo iddo cyn y dyddiad cychwyn; a

(b)y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei fod yn ymwneud â threillio sy'n gyfwerth â phrosiect cynefinoedd yn sgil —

(i)dynodi'r safle Ewropeaidd, neu

(ii)cynnig gan Weinidogion Cymru i safle gael ei ddynodi'r ardal gwarchodaeth arbennig at ddibenion bodloni rhwymedigaethau'r Deyrnas Unedig o dan Erthygl 4(1) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

(5Ar neu ar ôl y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (3), bydd y cytundeb yn cael effaith i bob pwrpas fel caniatâd a roddwyd o ganlyniad i gais o dan reoliad 10 ac y mae'n ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i'w adolygu o dan baragraff 3.

Y weithdrefn ar ôl adolygiad

5.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru, ar ôl adolygiad o dan baragraff 3 neu 4, yn bwriadu dirymu neu amrywio caniatâd a roddwyd, neu sy'n cael effaith fel petai wedi'i roi, o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt gyflwyno hysbysiad—

(a)i'r perchennog;

(b)i unrhyw ddeiliaid y caniatâd, neu'r rhan yr effeithir arni, yn ôl y digwydd; ac

(c)i unrhyw berson arall yr effeithir arno, ym marn Gweinidogion Cymru, gan y dirymu neu'r amrywio,

yn eu hysbysu o'r penderfyniad ac yn pennu cyfnod, nad yw'n llai nag 28 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad (“y cyfnod penodedig”), y caniateir i sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw gael eu cyflwyno ynddo.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad hefyd i unrhyw berson neu gorff y cafwyd cyngor gwyddonol oddi wrtho, yn ei hysbysu o'r penderfyniad ac yn ei wahodd i gyflwyno ei sylwadau o fewn y cyfnod penodedig.

(3Os bydd angen hynny, o fewn y cyfnod penodedig, ar berson y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo o dan is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn iddynt benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r dirymu neu'r amrywio, roi—

(a)i'r person hwnnw; a

(b)i unrhyw berson neu gorff arall y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan yr is-baragraff hwnnw neu is-baragraff (2),

gyfle i gyflwyno sylwadau (p'un ai'n bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu, gan roi sylw, yn benodol—

(a)i unrhyw sylwadau a gyflwynir mewn ymateb i hysbysiad a gyflwynwyd o dan is-baragraff (1) neu (2); a

(b)os yw'n gymwys, i adroddiad unrhyw berson a benodir o dan is-baragraff (3),

a ddylid bwrw ymlaen â dirymu neu amrywio'r caniatâd.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i unrhyw berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan—

(a)is-baragraff (1); neu

(b)is-baragraff (2),

hysbysiad o'r penderfyniad o dan is-baragraff (4) yn datgan —

(i)y prif resymau dros y penderfyniad,

(ii)y prif ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniad arnynt, a

(iii)y caniateir herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.

Effaith penderfyniad Gweinidogion Cymru ar ôl adolygiad

6.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu, o dan baragraff 5(1), ddirymu neu amrywio caniatâd a roddwyd, neu sy'n cael effaith fel petai wedi'i roi, o dan y Rheoliadau hyn, caiff y caniatâd ei atal dros dro neu bydd yr amrywio'n dod yn weithredol dros dro, yn ôl y digwydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ar y dyddiad y cyflwynir hysbysiad o dan baragraff 5(1).

(2Pan fo mwy nag un hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff 5(1) mewn cysylltiad â'r un dirymu neu amrywio, a bod yr hysbysiadau hynny'n cael eu cyflwyno ar ddiwrnodau gwahanol, daw'r ataliad dros dro neu'r amrywiad dros dro'n weithredol ar y dyddiad y cyflwynir yr olaf ohonynt.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â dirymu neu amrywio'r caniatâd o dan baragraff 5(4), bydd yn cael effaith eto, neu'n cael effaith ar y telerau yr oedd y caniatâd hwnnw'n effeithiol arnynt cyn yr amrywio dros dro, yn ôl y digwydd, o ddyddiad penderfyniad Gweinidogion Cymru i beidio â bwrw ymlaen.

(4Mewn perthynas â chaniatâd y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio â dirymu'r caniatâd —

(i)bydd unrhyw gyfnod a bennir yn y caniatâd ar gyfer cymryd unrhyw gamau, a hwnnw'n gyfnod sy'n dirwyn i ben ar ôl y dyddiad yr ataliwyd y caniatâd dros dro o dan is-baragraff (1) neu is-baragraff (2), yn cael ei drin fel un sydd wedi'i estyn gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr ataliwyd y caniatâd ynddo dros dro, a

(ii)pan fo'n ofynnol mewn caniatâd i unrhyw beth gael ei wneud erbyn dyddiad penodedig, sy'n dod ar ôl y dyddiad y cafodd y caniatâd ei atal dros dro, caiff y dyddiad penodedig ei ohirio gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr ataliwyd y caniatâd ynddo dros dro.

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio ag amrywio'r caniatâd—

(i)bydd unrhyw gyfnod a bennir yn y caniatâd ar gyfer cymryd unrhyw gamau, a hwnnw'n gyfnod sy'n dirwyn i ben ar ôl y dyddiad y cafodd y caniatâd ei amrywio arno dros dro o dan is-baragraff (1) neu (2), os yw'r camau yn ymwneud â materion y mae'r amrywiad dros dro yn effeithio arnynt, yn cael ei drin fel un sydd wedi'i estyn gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr oedd y caniatâd yn cael effaith ynddo fel caniatâd a oedd wedi'i amrywio; a

(ii)pan fo'n ofynnol mewn caniatâd i unrhyw gamau gael eu cymryd erbyn dyddiad penodedig sy'n dod ar ôl y dyddiad y cafodd y caniatâd ei amrywio arno dros dro, caiff y dyddiad penodedig, os yw'r camau yn ymwneud â materion y mae'r amrywiad dros dro yn effeithio arnynt, ei ohirio gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr oedd y caniatâd yn cael effaith ynddo fel caniatâd a oedd wedi'i amrywio.

(5Ni fydd dirymu neu amrywio o dan baragraff 5(1), neu atal caniatâd dros dro neu ei amrywio dros dro o dan is-baragraff (1), yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed o dan y caniatâd cyn y dyddiad a ddyfarnwyd yn unol â'r is-baragraff hwnnw neu, yn ôl y digwydd, is-baragraff (2).

Mesurau digolledu

7.  Pan fo—

(a)caniatâd yn cael ei roi ar gyfer prosiect, er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i safle Ewropeaidd; neu

(b)caniatâd yn cael ei gadarnhau ar ôl adolygiad, er gwaethaf asesiad o'r fath,

rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw fesurau digolledu angenrheidiol yn cael eu cymryd i sicrhau bod cydlyniad cyffredinol Natura 2000 yn cael ei ddiogelu a rhaid iddynt sicrhau bod y Comisiwn Ewropeaidd yn cael ei hysbysu o'r mesurau digolledu a gymerwyd.