xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
25 Medi 2007
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Medi 2007
Yn dod i rym
20 Hydref 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 132, 134, 135, 145(1) a (2) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt(1) a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau i Reoliadau ynghylch Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 20 Hydref 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Ym mharagraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(3) yn lle'r geiriau “Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC ar system gyffredinol i gydnabod diplomâu addysg-uwch a ddyfernir i'r sawl sy'n cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n parhau am dair blynedd o leiaf” rhodder “Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007”.
3. Ym mharagraff 11 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005(4) yn lle'r geiriau “Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau o leiaf dair blynedd o addysg a hyfforddiant proffesiynol” rhodder “Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007”.
4. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005(5) yn y diffiniad o “Rheoliadau 2005” yn lle'r geiriau “Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005” rhodder “Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007.”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
25 Medi 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhoi yn lle'r cyfeiriadau at Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48/EEC yn Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 a Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 gyfeiriadau at Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007 (“y Rheoliadau”). Mae'r Rheoliadau yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/36/EC ar gydnabod cymwysterau proffesiynol ac yn disodli Cyfarwyddeb flaenorol y Cyngor ynghylch y Systemau Cyffredinol cyntaf, ail a thrydydd ar gydnabod cymwysterau proffesiynol yn gilyddol.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhoi yn lle'r cyfeiriad yn Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 at Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005 gyfeiriad at Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2005.
2002 p.32. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
1998 p.30. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).