xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2851 (Cy.248)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007

Gwnaed

28 Medi 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Hydref 2007

Yn dod i rym

23 Hydref 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007.

(1) (2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Hydref 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006(3).

ystyr “Rheoliadau 2007 (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007(4).

Diwygio Rheoliadau 2006 a Rheoliadau 2007

3.  Diwygir Rheoliadau 2006 yn unol â Rhan 2.

4.  Diwygir Rheoliadau 2007 yn unol â Rhan 3.

RHAN 2DIWYGIADAU I REOLIADAU 2006

5.  Yn y testun Saesneg o reoliad 2(1A) o Reoliadau 2006, ar ôl y gair “his”, mewnsoder “or her”.

6.  Yn y testun Cymraeg o reoliad 55(3)(ba) o Reoliadau 2006 hepgorer y gair “nad”.

7.  Yn y testun Cymraeg o baragraff 1(4)(ch) o Atodlen 1 i Reoliadau 2006, yn lle “blentyn ei briod neu ei bartner sifil;”, rhodder “briod neu bartner sifil ei blentyn,”.

RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU 2007

Diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2007

8.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2007, yn y man priodol yn nhrefn y wyddor, mewnosoder—

ystyr “blwyddyn bwrsari” (“bursary year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs—

(a)

mewn perthynas â hi y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm; neu

(b)

mewn perthynas â hi y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan lwfans gofal iechyd yr Alban y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm;

ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig” (“designated distance learning course”) yw cwrs a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru dan reoliad 61C;”;

ystyr “cwrs dysgu o bell presennol” (“present distance learning course”) yw'r cwrs dysgu o bell dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef;”;

ystyr “lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl” (“disabled distance learning students' allowance”) yw'r grant taladwy dan reoliad 61F;”;

mae i “myfyriwr dysgu o bell cymwys” (“eligible distance learning student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 61A;.

9.  Yn y testun Saesneg o reoliad 2(1A) o Reoliadau 2007, ar ôl y gair “his”, mewnsoder “or her”.

Diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2007

10.  Yn rheoliad 4 o Reoliadau 2007—

(a)yn dilyn paragraff (6)(a), mewnosoder—

(aa)at gwrs dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;;

(b)yn lle paragraff (12), rhodder—

(12) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i ffoadur—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol; neu

(ii)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; ac

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.;

(c)yn lle paragraff (13), rhodder–.

(13) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson â hawl i ddod i mewn neu i aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i'r cyfryw berson—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan- amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol; neu

(ii)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i'r person sydd â hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi..

Diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2007

11.  Yn rheoliad 5 o Reoliadau 2007—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “i baragraff (2)”, rhodder “i baragraffau (2), (3) a (3A)”;

(ii)yn dilyn is-baragraff (b), mewnosoder—

(bb)heb fod yn ddynodedig dan reoliad 61C;;

(b)ym mharagraff (2)—

(c)yn dilyn paragraff (2), mewnosoder—

(2A) Nid yw cwrs a ymgymerir fel rhan o Gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gwrs dynodedig.;

(ch)yn dilyn paragraff (3), mewnosoder—

(3A) Nid yw paragraff (1)(bb) yn gymwys pan fo rhywun sy'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs—

(a)yn fyfyriwr anabl; a

(b)yn ymgymryd â chwrs yn y Deyrnas Unedig ond nid yn ei fynychu oherwydd ni all ei fynychu am reswm sy'n gysylltiedig â'i anabledd..

Diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2007

12.  Yn rheoliad 6(15)(a) o Reoliadau 2007, yn lle “lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosi neu lle na fydd yn trosi”, rhodder “lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosglwyddo neu drosi neu lle na fydd yn trosglwyddo neu drosi”, ac yn lle “dan reoliad 70(1),”, rhodder “dan reoliad 8, rheoliad 61I, rheoliad 61J a rheoliad 70.”.

13.  Yn rheoliad 6 o Reoliadau 2007 —

(a)ym mharagraff (19) yn dilyn “cwrs gradd cywasgedig”, mewnosoder “neu gwrs dysgu o bell dynodedig”;

(b)ym mharagraff (20)(b) yn dilyn “phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs”, mewnosoder “neu, yn achos cwrs dysgu o bell dynodedig, ymgymryd â'r cwrs”.

Diwygio rheoliad 12 o Reoliadau 2007

14.  Yn rheoliad 12, hepgorer paragraffau (4) ac (5).

Diwygio rheoliad 16 o Reoliadau 2007

15.  Yn rheoliad 16 o Reoliadau 2007—

(a)yn lle paragraff (4), rhodder—

(4) Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r lleiaf o—

(a)£2,195; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.;

(b)yn lle paragraff (5), rhodder—

(5) Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r lleiaf o —

(a)£4,455; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno..

Diwygio rheoliad 23 o Reoliadau 2007

16.  Ar ôl rheoliad 23 o Reoliadau 2007, mewnosoder—

23A.(1) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben cymhwyso ar gyfer y grantiau dilynol—

(a)grant ar gyfer dibynyddion;

(b)grant costau byw myfyrwyr anabl;

(c)grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;

(ch)grant addysg uwch.

(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

Diwygio rheoliad 30 o Reoliadau 2007

17.  Yn rheoliad 30(1) o Reoliadau 2007—

(a)ar ddechrau is-baragraff (c), mewnosoder “yn ddarostyngedig i is-baragraff (i),”;

(b)yn is-baragraff (d) yn lle “ac (ng)”, rhodder “(ng) ac (h)”;

(c)yn dilyn is-baragraff (dd), mewnosoder—

(dda)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), o ran myfyriwr cymwys, yw plentyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr;;

(ch)yn dilyn is-baragraff (ng), mewnosoder—

(h)at bwrpas penderfynu a yw rhywun yn gynbartner i bartner i fyfyriwr cymwys, ystyr “partner” (“partner”) o ran partner i fyfyriwr cymwys yw–

(i)priod i bartner myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil i bartner myfyriwr cymwys;

(iii)pan fo myfyriwr cymwys wedi dechrau'r cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000, rhywun sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel petai'n briod iddo;

(iv)pan fo myfyriwr cymwys wedi dechrau'r cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel petai'n bartner sifil iddo;

(i)yn ddarostyngedig i is-baragraff (j), at bwrpas y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependent”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin ag oedolyn neu blentyn fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw'r oedolyn neu'r plentyn—

(i)yn ddibynnol ar—

(aa)y myfyriwr cymwys; neu

(bb)ei bartner; ond

(ii)yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a'i bartner gyda'i gilydd.

(j)nid yw Gweinidogion Cymru i ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un dibynnol ar fyfyriwr cymwys yn unol ag is-baragraff (i), os yw A–

(i)yn briod neu'n bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(ii)yn gynbartner partner y myfyriwr cymwys..

Mewnosod Rhan newydd yn Rheoliadau 2007

18.  Yn dilyn rheoliad 61 o Reoliadau 2007, mewnosoder—

RHAN 10ACYMORTH TUAG AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER

Myfyrwyr dysgu o bell cymwys

61A.(1) Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ef yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig os yw Gweinidogion Cymru wrth asesu ei gais am gymorth yn penderfynu bod y person hwnnw yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(3) Nid yw person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)os, yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas â'r cwrs dysgu o bell–

(i)bwrsari gofal iechyd p'un a yw swm y bwrsari hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992; neu

(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio;

(b)os ydyw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os ydyw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglyn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;

(ch)os ydyw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth; neu

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw'n garcharor sy'n bwrw dedfryd o gaethiwed.

(4) Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys—

(a)os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn fyfyriwr anabl; a

(b)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas â'r cwrs dysgu o bell –

(i)bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio.

(5) Nid yw paragraff (3)(d) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu'n cael ei ryddhau o'r carchar ar ôl bwrw dedfryd o'r fath.

(6) At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(7) Mewn achos pan fo'r cytundeb ynglyn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, bydd paragraff (3)(c) ddim ond yn gymwys os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur.

(8) Er gwaethaf paragraffau (2) a (3) ac yn ddarostyngedig i baragraffau (11) i (13), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (9) neu (10).

(9) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dysgu o bell dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b)nad oedd y person yn preswylio fel arfer yn Lloegr ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs; ac

(c)nad yw ei statws fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i derfynu.

(10) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru eisoes wedi penderfynu bod y person—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig;

(ii)yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig heblaw'r cwrs dysgu o bell presennol; neu

(iii)yn fyfyriwr rhan amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;

(b)bod statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a) wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c)nad oedd y person yn preswylio fel arfer yn Lloegr ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (a); ac

(ch)nad yw statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i derfynu.

(11) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson â hawl i ddod i mewn neu aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i'r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys, myfiriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i'r person sydd â hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13) Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr cymwys neu'n fyfyriwr rhan amser cymwys, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

(14) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth—

(a)at fwy nag un cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

(ch)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

61B.(1) Pan fo un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr yr hawl i grant o ran ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon cyn belled â bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(2) Pan fo un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f), neu (ff) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr yr hawl i grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b)nid yw grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(3) Pan fo un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f), neu (ff) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —

(a)caiff myfyriwr yr hawl i lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; ac

(b)nid yw lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ar gael.

(4) Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd a bod y myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(ch)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(d)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd pan fo'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(dd)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir; neu

(ff)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci.

Cyrsiau dysgu o bell dynodedig

61C.(1) Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 61A os caiff ei ddynodi gan Weinidogion Cymru dan y rheoliad hwn.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs dan y rheoliad hwn os yn eu barn hwy—

(a)bod y cwrs yn cael ei grybwyll yn Atodlen 2 heblaw am gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)bod y cwrs yn gwrs llawnamser;

(c)bod y cwrs yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac

(ch)nad yw'n ofynnol gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs bod myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn ei fynychu.

(3) At ddibenion penderfynu a yw'r gofyniad ym mharagraff (2)(ch) yn cael ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—

(a)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad at ddibenion—

(i)cofrestru;

(ii)arholiad;

(b)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

(c)unrhyw gyfnod mynychu yn y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs y caiff y myfyriwr ei gyflawni ond nad yw'n orfodol iddo wneud hynny gan y sefydliad neu'r sefydliadau hynny.

(4) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs fel cwrs dysgu o bell dynodedig—

(a)os yw'n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2; a

(b)os yw corff llywodraethol ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs ar gyfer disgybl yr ysgol.

Cyfnod cymhwystra

61CH.(1) Mae myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig hyd onid yw'r statws yn terfynu yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliad 61A.

(2) Y cyfnod y mae myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cadw ei statws yw'r “cyfnod cymhwystra”.

(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 61A, mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau ei gwrs dysgu o bell dynodedig ynddi.

(4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs dysgu o bell dynodedig dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu pan na fyddant yn trosglwyddo neu yn trosi ei statws dan reoliad 61H, rheoliad 61I, rheoliad 61J, rheoliad 61L neu reoliad 70; neu

(b)yn rhoi'r gorau i'w gwrs dysgu o bell dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dangos trwy ei ymddygiad nad yw'n addas i dderbyn cymorth.

(6) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y credent eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordal y caniateir ei adennill o dan reoliad 61N.

(7) Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau'r cwrs dysgu o bell dynodedig ynddi caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.

Cymorth at gyrsiau dysgu o bell

61D.(1) At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—

(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw'n fwy na'r lleiaf o'r symiau canlynol—

(i)£1,150; a

(ii)y “ffioedd gwirioneddol”, sef swm y ffioedd a godir ar y myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dysgu o bell dynodedig; a

(b)grant nad yw'n fwy na £250 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell dynodedig.

(2) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan baragraff (1)(b) os mai'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw oddi tano yw paragraff 9.

(3) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn—

(a)os ydyw'n fyfyriwr anabl; a

(b)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell –

(i)bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio.

(4) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru.

(5) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn os ydyw wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau dysgu o bell dros gyfanswm o wyth mlynedd a'i fod wedi derbyn benthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (6) mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny.

(6) Y benthyciadau a'r grantiau yw—

(a)pob benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a waned mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell yn unol â'r rheoliadau a wnaed dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b)pob benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a waned mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell gan Adran Gyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau wnaed dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998; neu

(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.

(7) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn os yw'n ddeiliad gradd gyntaf gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(8) At ddibenion paragraff (7), nid yw gradd i'w chael ei thrin fel gradd gyntaf—

(a)pan fo'n radd (heblaw gradd anrhydedd) a roddwyd i fyfyriwr dysgu o bell cymwys sydd wedi cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu unrhyw ddulliau eraill o asesu angenrheidiol ar gyfer ei gwrs gradd gyntaf; a

(b)pan fo'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei gofrestru i barhau â'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol yn dilyn derbyn ei radd er mwyn ennill gradd anrhydedd ar ôl cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu unrhyw ddull arall o asesu angenrheidiol.

Swm y cymorth

61DD.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 61H(6), mae swm y cymorth a delir ar gyfer blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)(a) mae'r mwyafswm o'r cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1) yn daladwy os, ar ddyddiad ei gais, yw'r myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ei bartner â hawl—

(i)o dan Rhan V11 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal treth cyngor; neu

(ii)o dan Rhan 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 i lwfans ceisiwr gwaith seiliedig ar incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogi a Hyfforddiant 1973 i lwfans o dan y trefniadau a adnabyddir fel Y Fargen Newydd;

(b)pan fo'r incwm perthnasol yn llai na £15,700, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1) yn daladwy;

(c)pan fo'r incwm perthnasol yn £15,700, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai na'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(a);

(ch)pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £15,700, ond yn llai na £23,680, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 61D(1)(a) yw'r swm a benderfynir arno yn unol â pharagraph (2);

(d)pan fo'r incwm perthnasol yn £23,680, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 61D(1)(a) yw £50;

(dd)pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £23,680 ond yn llai na £24,280, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(b) yn daladwy ac nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 61D(1)(a);

(e)pan fo'r incwm perthnasol yn £24,280 neu ragor ond yn llai na £26,180, nid oes unrhyw gymorth ar gael o dan reoliad 61D(1)(a) a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 61D(1)(b) yw'r swm a adewir yn dilyn didynnu o'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(b) £1 am bob £9.50 cyflawn a fyddai'n peri i'r incwm perthnasol fynd dros £24,280;

(f)pan fo'r incwm perthnasol yn £26,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 61D(1)(a) ac mae swm y cymorth taladwy o dan reoliad 61D(1)(b) yn £50;

(ff)pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £26,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 61D(1).

(2) Pan fo paragraff (1)(ch) yn berthnasol, penderfynir faint o gymorth sy'n daladwy o dan reoliad 61D(1)(a) trwy ddidynnu o'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(a) un o'r symiau canlynol—

(a)£50 a £1 ychwanegol am bob £7.60 cyflawn a fyddai'n peri i'r incwm perthnasol fynd dros £15,700; neu

(b)pan fo'r ffioedd gwirioneddol yn llai na £1,150, cyfanswm sy'n hafal i'r hyn a adewir wedi didynnu o'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng £1,150 a'r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negative ac yn yr achos hwnnw telir yr uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(a)).

Dehongliad o reoliad 61DD

61E.(1) At ddibenion rheoliad 61DD—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(iii)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel petai yn briod ag ef pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn 25 oed neu fwy ar y diwrnod cyntaf o'r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth a phan ddechreuodd y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;

(iv)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel petai yn briod ag ef neu'n bartner sifil pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(b)nid yw person fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (a) i'w drin fel partner os—

(i)ym marn Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw a'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi gwahanu; neu

(ii)bod y person fel rheol yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nas cynhelir gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(c)ystyr “incwm perthnasol” (“relevant income”) yw'r hyn a welir ym mharagraff (2).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae incwm perthnasol myfyriwr dysgu o bell cymwys yn hafal i'w ffynonellau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—

(i)£2,000 yn achos ei bartner;

(ii)£2,000 yn achos yr unig blentyn neu'r plentyn hynaf sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner; a

(iii)£1,000 yn achos pob plentyn arall sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner.

(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon bod ffynonellau ariannol y myfyriwr dysgu o bell cymwys am y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na'i ffynonellau ariannol am y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfanswm yn £1,000 neu ragor, gallant asesu ffynonellau ariannol y myfyriwr hwnnw trwy gyfeirio at y ffynonellau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4) Yn y rheoliad hwn golyga ffynonellau ariannol myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn blwyddyn ariannol gyfanred ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â chyfanred incwm y flwyddyn honno unrhyw berson sy'n bartner i'r myfyriwr ar ddyddiad gwneud y cais.

(5) Yn y rheoliad hwn—

(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;

(b)ystyr “blwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi;

(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(ch)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(d)ystyr “incwm” (“income” ) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw geisiadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

(dd)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(e)ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir” (“specified designated distance learning course”) yw'r cwrs y mae'r person yn gwneud cais am gymorth tuag ato, neu pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell dynodedig presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad neu fwy o'r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru o gwrs dysgu o bell (y “cwrs cychwynnol”) (“initial course”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf , y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir yw'r cwrs cychwynnol.

Lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl

61F.(1) Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl yn unol â'r Rhan hon i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ei bod yn ofynnol iddo'i ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig.

(2) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn os mai'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw oddi tano yw paragraff 9;

(3) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n flwyddyn bwrsari.

(4) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn oni bau bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru.

(5) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr.

(6) Ni ddylai swm y grant fod yn fwy na'r canlynol—

(a)£12,420 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£4,905 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol a dynnir—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig er mwyn gallu bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)o fewn neu o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(ch)£1,640, mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a dynnwyd at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.

Ceisiadau am gymorth

61FF.(1) Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell dynodedig drwy gwblhau ffurflen gais ar y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani a'i chyflwyno i Weinidogion Cymru.

(2) Rhaid anfon gyda'r cais—

(a)datganiad a gwblhawyd gan yr awdurdod academaidd; a

(b)y cyfryw ddogfennaeth ychwanegol ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau yr ystyriant yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth, ac os oes ganddo hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(5) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y cyflwynir y cais mewn perthynas ag ef.

(6) Nid yw'r rheol gyffredinol yn gymwys—

(a)pan fo un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) o reoliad 61B yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod y digwyddiad perthnasol;

(b)pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am y lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; neu

(c)pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddynt.

Datganiadau a ddarperir gan awdurdodau academaidd

61G.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r awdurdod academaidd, ar gais y ceisydd, gwblhau datganiad yn y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdano fynd gyda'r cais am gefnogaeth.

(2) Nid yw'n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw'n gallu rhoi'r cadarnhad gofynnol.

(3) Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—

(a)pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—

(i)sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy wythnos o'r cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)mewn unrhyw achos arall, datganiad—

(i)sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—

(a)swm y ffioedd a godir mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi;

(b)ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn fod y ceisydd yn ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru; ac

(c)mewn unrhyw achos pan fo'r ceisydd yn fyfyriwr anabl, ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn fod y ceisydd wedi dewis ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell dynodedig am reswm heblaw'r ffaith na all fod yn bresennol ar gwrs dynodedig oherwydd rhesymau sy'n ymwneud â'i anabledd.

Gwybodaeth

61NG.  Mae Atodlen 3 yn ymwneud â darparu gwybodaeth.

Trosglwyddo statws

61H.(1) Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i'r cwrs hwnnw pan—

(a)derbyniant gais i wneud hynny oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(2) Y seiliau trosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig arall yn y sefydliad;

(b)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c)ar ôl iddo ddechrau cwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr dysgu o bell cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, weddill y cymorth y penderfynodd Gweinidogion Cymru bod ganddo hawl iddo mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sydd yn daladwy ar ôl y trosglwyddo.

(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 61D(1)(b) neu reoliad 61F mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

(6) Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 61D(1)(a) mewn perthynas â'r blynyddoedd academaidd y mae'n trosglwyddo iddynt ac ohonynt yw swm y cymorth sydd ar gael mewn cysylltiad â'r cwrs sydd â'r ffioedd uchaf gwirioneddol fel y'u diffinnir yn rheoliad 61D.

Trosi statws — myfyrwyr cymwys nad ydynt yn bresennol ar gwrs dynodedig

61I.(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu cyn 1 Medi 2007 bod myfyriwr—

(a)yn fyfyriwr cymwys; ond

(b)oherwydd ei fod yn ymgymryd â chwrs dynodedig, ond nid yn bresennol arno, neu yn cael ei gyfrif fel petai'n bresennol—

(i)yn gymwys am lwfans myfyrwyr anabl yn unig mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw; neu

(ii)nad yw'n gymwys ar gyfer cymorth o dan Rannau 4 i 6 mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw,

rhaid i Weinidogion Cymru drosi ei statws i fod yn un myfyriwr dysgu o bell cymwys yn unol â'r rheoliad hwn.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws myfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn berthnasol iddo i fod yn un myfyriwr dysgu o bell cymwys pan —

(a)eu bod yn fodlon bod y myfyriwr yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru; a

(b)bod y cyfnod cymhwyster heb derfynu.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu, yn unol â'r Rhan hon, beth yw swm y cymorth a delir o dan reoliad 61D ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol i fyfyriwr sydd â'i statws wedi ei drosi o dan baragraff (2).

(4) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n dod o fewn paragraff (1)(b)(i) ac y trosir ei statws o dan baragraff (2)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm i'r myfyriwr o dan reoliad 24 (“y swm blaenorol”) ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol, ni ddylid gwneud unrhyw daliad mewn perthynas â'r swm hwnnw ar nac ar ôl 1 Medi 2007;

(b)uchafswm y lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl y mae'r myfyriwr yn gymwys ar ei gyfer mewn cysylltiad â'i ymgymeriad â chwrs dysgu o bell dynodedig yn y flwyddyn academaidd gyfredol yw'r mwyaf o'r symiau canlynol–

(i)y swm blaenorol; a

(ii)y “swm gwirioneddol” sef yr uchafswm o lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl y penderfyna Gweinidogion Cymru sy'n daladwy i'r myfyriwr; ac

(c)(c) pan fo swm at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr o dan reoliad 24 cyn 1 Medi 2007, mae uchafswm y lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl sy'n daladwy iddo i'r diben hwnnw am y flwyddyn academaidd gyfredol yn cael ei ostwng yn ôl swm y grant a dalwyd iddo i'r diben hwnnw yn unol â Rhan 5, a phan fo'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.

(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw blwyddyn academaidd yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008.

Trosi statws — myfyrwyr cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dysgu o bell dynodedig

61J.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo–

(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys i wneud hynny; a

(b)pan nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2) Ni chymhwysir y rheoliad hwn ar gyfer myfyriwr sy'n gymwys o dan reoliad 61I.

(3) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm i'r myfyriwr o dan reoliad 24 mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)mae uchafswm y lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl y byddai gan y myfyriwr hawl iddo, ar wahân i'r rheoliad hwn, mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell penodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd, ac o ddau draean pan ddaeth yn gyfryw fyfyriwr yn ystod chwarter diweddarach o'r flwyddyn honno;

(c)pan fo swm o grant at gostau byw myfyrwyr anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr o dan Ran 5 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl sy'n daladwy iddo at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â Rhan 5, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac

(ch)pan fo'r myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais am fenthyciad at gostau byw ar gyfer y flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu'r uchafswm a gynyddwyd yr oedd â hawl iddo, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu'r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) gostyngir uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm cynnydd y cyfryw fenthyciad am y flwyddyn academaidd yn unol â'r paragraff hwnnw.

(4) Pan fo'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy ar ei chyfer, gostyngir uchafswm y benthyciad neu'r uchafswm a gynyddwyd o'r cyfryw fenthyciad (yn ôl y digwydd) o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ystod ail chwarter y flwyddyn honno gostyngir y swm hwnnw o un traean.

Trosi statws — myfyrwyr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dynodedig

61L.(1) Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny; a

(b)pan nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl i'r myfyriwr mewn rhandaliadau rheolaidd ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys;

(b)bydd unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hawl iddo o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y trosglwydda'r myfyriwr ynddi yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu swm y cymorth y gall bod ganddo hawl iddo am y flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 5 neu 6 y byddai'r myfyriwr, ar wahân i'r rheoliad hwn, â hawl iddo mewn cysylltiad â chwrs dynodedig o fewn y flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno, ac o ddau draean os daeth yn gyfryw fyfyriwr mewn chwarter diweddarach o'r flwyddyn honno;

(ch)pan fo swm o lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy'n daladwy iddo o dan Ran 5 i'r diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl a dalwyd iddo i'r diben hwnnw, a phan fo'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol bydd y swm hwnnw yn ddim.

Talu grantiau ar gyfer ffioedd

61LL.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd y mae'r myfyriwr â hawl iddo i'r awdurdod academaidd priodol wed ii gais dilys am daliad ddod i law.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau fel y gwelant yn dda.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y barnant sy'n briodol.

Talu grantiau ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl

61M.(1) Caiff taliadau'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl eu gwneud mewn dull y barna Gweinidogion Cymru sydd briodol a chânt osod amod ar gyfer yr hawl i daliad bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys i roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gellir gwneud y taliadau iddo trwy drosglwyddiad electronig.

(2) Pan fetha Gweinidogion Cymru â gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a dderbyniwyd oddi wrth y myfyriwr, gallant wneud asesiad dros dro a thaliad o'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn rhandaliadau.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl ar adegau y barnant hwy yn briodol.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf na chwaith, pan benderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall na'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl cyn iddynt dderbyn datganiad o dan reoliad 61G oni bai bod eithriad yn gymwys.

(6) Mae eithriad yn gymwys—

(a)os oes lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl yn daladwy, a'r pryd hynny gellir talu'r grant hwnnw cyn bo datganiad wedi dod i law Gweinidogion Cymru;

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol oherwydd yr amgylchiadau eithriadol i wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.

Gordaliadau

61N.(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi ar yr awdurdod academaidd.

(2) Os bydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru, bydd yn rhaid i fyfyriwr dysgu o bell cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl iddo o dan y Rhan hon.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai eu bod yn ystyried ei bod yn amhriodol i wneud hynny.

(4) Y dulliau o adennill yw—

(a)tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru er mwyn adennill gordaliad.

(5) Mae taliad o lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.

(6) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw dyddiad dechrau gwirioneddol tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw.

(7) Dan yr amgylchiadau a roddir ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.

(8) Yr amgylchiadau yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl ar gyfer prynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nad yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn diwedd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr.

(9) Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b)bod taliad lwfans myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei wneud ar gyfer offer arbenigol i'r myfyriwr ar derfyn y cyfnod cymhwystra.

(10) Pan fo gordaliad o'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn dychweliad offer arbenigol a brynwyd â'r grant fel modd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny.

Diwygio rheoliad 62 o Reoliadau 2007

19.  Yn rheoliad 62 o Reoliadau 2007—

(a)ar ôl paragraff (14) mewnosoder—

(14A) Pan fydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (dda), (e) neu (f) o baragraff (15) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —

(a)gall myfyriwr fod yn gymwys i gael grant o dan reoliad 66 o ran y flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b)nid yw grant o dan reoliad 66 ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(b)yn lle paragraff (19) rhodder—

(19) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod â, yn bartner sifil, yn blentyn neu yn llysblentyn ffoadur, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y gwna A gais am gymorth mewn perthynas â hi, bod statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi terfynu ac na chaniatawyd iddo aros ymhellach ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y gwna gais am gymorth ar ei chyfer.;

(c)Yn lle paragraff (20), rhodder—

(20) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), oherwydd ei fod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu yn briod â, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth ar ei chyfer, bod statws ffoadur A neu ei briod, partner sifil, rhiant neu lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y gwna gais am gymorth ar ei chyfer.;

(ch)yn dilyn paragraff (22)(b), mewnosoder—

(bb)cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;.

Diwygio rheoliad 67 o Reoliadau 2007

20.  Yn y testun Cymraeg o reoliad 67(4)(aa) o Reoliadau 2007, hepgorer y gair “nad”.

Diwygio rheoliad 70 o Reoliadau 2007

21.  Yn rheoliad 70 o Reoliadau 2007—

(a)Yn dilyn paragraff (4), mewnosoder—

(4A) Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig ac yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y trosglwydda iddo pan–

(a)derbyniant gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys i wneud hynny; a

(b)nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(4B) Pan fo'r myfyriwr, cyn iddo gwblhau'r cwrs dysgu o bell cymwys, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, mae'r cwrs rhan-amser i'w ystyried fel petai yn bodloni rheoliad 63(1)(b) ac (c) os yw'r cyfnod o astudio rhan-amser y mae'r myfyriwr i ymgymryd ag efyn para un flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n hwy na dwywaith y cyfnod sydd ei angen yn arferol i gwblhau gweddill y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ohono.

(4C) Yn ddarostyngedig i baragraff (4CH), bydd myfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (4A) yn derbyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwydda iddo weddill y cymorth y penderfynodd Gweinidogion Cymru ei fod yn gymwys amdano o dan Ran 10A ar gyfer blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig o'r hwn y trosglwydda'r myfyriwr.

(4CH) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth fydd yn daladwy wedi'r trosglwyddiad.

(4D) O ran myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (4A) wedi i Weinidogion Cymru benderfynu ynglyn â'i gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'n trosglwyddo ohono ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno–

(a)ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 65(1)(b) os ydyw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 61D(1)(b);

(b)ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 66 os ydyw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 61F.

(4DD) Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (4A), ni chaiff cyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr o dan reoliadau 61D(1)(a) a 65(1)(a) ar gyfer y blynyddoedd academaidd y bydd ef yn trosglwyddo iddynt ac ohonynt fod yn fwy na swm y cymorth y penderfynwyd sy'n daladwy i'r myfyriwr o dan reoliad 61D(1)(a).;

(b)yn dilyn paragraff (6), mewnosoder—

(6A) Pan fo myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo pan—

(a)derbyniant gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys i wneud hynny; a

(b)na fydd y cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(6B) Yn ddarostyngedig i baragraff (6C), bydd myfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (6A) yn derbyn, mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd o'r cwrs y trosglwydda iddo, gweddill y cymorth y penderfynodd Gweinidogion Cymru ei fod yn gymwys i'w gael o dan Ran 11 ar gyfer blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae'n trosglwyddo ohono.

(6C) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.

(6CH) O ran myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (6A) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ynglyn â'i gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell y mae ef yn trosglwyddo ohono ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno—

(a)ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 61D(1)(b) os ydyw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 65(1)(b);

(b)ni chaiff gwneud cais am grant o dan reoliad 61F os ydyw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 66.

(6D) Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (6A), ni chaiff cyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr o dan reoliadau 61D(1)(a) a 65(1)(a) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ohoni ac iddi fod yn fwy na chyfanswm y cymorth a benderfynwyd oedd daladwy i'r myfyriwr o dan reoliad 61D(1)(a)..

Diwygio rheoliad 74 o Reoliadau 2007

22.  Yn dilyn rheoliad 74(15)(b) o Reoliadau 2007, mewnosoder —

(bb)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;.

Diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2007

23.  Yn y testun Cymraeg o baragraff 1(3)(ch) o Atodlen 1 i Reoliadau 2007, yn lle “blentyn ei briod neu ei bartner sifil;”, rhodder “briod neu bartner sifil ei blentyn,”.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

28 Medi 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) a Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”).

Newidir darpariaethau cyfatebol y Rheoliadau fel a ganlyn—

Diwygiadau i Reoliadau 2006

Yn Rhan 2 y Rheoliadau hyn, ymdrinnir â chamgymeriadau teipograffyddol yn rhaglith a rheoliad 2(1A) testun Saesneg Rheoliadau 2006 ynghyd â chamgymeriadau teipograffyddol yn rheoliadau 55 (3)(ba) a pharagraff 1 (4)(ch) o Atodlen 1 testun Cymraeg yr un Rheoliadau.

Diwygiadau i Reoliadau 2007

Mae Rheoliadau 2007 yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2007 i wneud darpariaeth ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell dynodedig . Cwrs dysgu o bell dynodedig yw cwrs a ddynodwyd dan y rheoliad 61C newydd gan Weinidogion Cymru (rheoliad 18).

Caiff y cymorth sy'n daladwy i fyfyrwyr dysgu o bell cymwys ei nodi yn y rheoliadau 61D (grant mewn perthynas â ffioedd a grant mewn perthynas â llyfrau, teithio a gwariant arall) a 61F newydd (lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl). Caiff lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl ei dalu i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell llawnamser o dan y rheoliad 61F newydd yn hytrach na o dan reoliad 24 o Reoliadau 2007.

Caiff statws myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn grant costau byw myfyrwyr anabl yn gysylltiedig ag ymgymryd â chwrs dynodedig ond nid yn ei fynychu ei newid o fod yn fyfyrwyr cymwys i fod yn fyfyrwyr dysgu o bell cymwys yn unol â'r rheoliad 61I newydd. Bydd y ddarpariaeth hon hefyd yn gymwys i fyfyrwyr a ddyfarnwyd eisoes eu bod yn gymwys ond nas cymhwyswyd ar gyfer cymorth yn unig am nad oeddynt yn mynychu cwrs dynodedig.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud amryw o ddiwygiadau canlyniadol ychwanegol i Reoliadau 2007 yn dilyn cyflwyno darpariaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr dysgu o bell cymwys.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 16 o Reoliadau 2007 i'w gwneud yn glir na all myfyriwr dan yr hen drefn sy'n mynychu cwrs yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall neu Goleg Heythrop fod yn gymwys ar gyfer grant tuag at ffioedd sydd yn fwy na'r ffioedd gwirioneddol sy'n daladwy ganddo (rheoliad 15).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 30 o Reoliadau 2007 i egluro y caiff myfyriwr cymwys fod yn gymwys i gael grant ar gyfer dibynyddion pan fo'r dibynnydd perthnasol yn ddibynnol arno ef neu ef a'i bartner gyda'i gilydd (rheoliad 17).

Gwneir darpariaeth hefyd i alluogi rhai myfyrwyr rhan-amser i fod yn gymwys i dderbyn lwfans myfyrwyr rhan-amser anabl yn ystod blwyddyn academaidd (rheoliad 21).

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).