Search Legislation

Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig a Chynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2900 (Cy.251)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig a Chynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2007

Gwnaed

3 Hydref 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Hydref 2007

Yn dod i rym

1 Tachwedd 2007

Mae Gweinidogion Cymru, a hwythau wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt, yn gwneud yn Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig a Chynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006

2.—(1Diwygier Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006(3) yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2—

(a)yn y diffiniad o “buddiolwr” ym mharagraff (1), ar ôl “iddo” mewnosoder “neu berson sydd wedi cymryd drosodd ymrwymiadau'r cyfryw berson”,

(b)ar ôl paragraff (1), mewnosoder “(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.”.

(3Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

(3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniadau gyda grwp a ddetholwyd i weithredu strategaeth ddatblygu leol yn unol ag Erthygl 37 o Reoliad y Comisiwn 1974/2006, er mwyn i'r grwp hwnnw wneud taliadau o gymorth ariannol ar ran Gweinidogion Cymru ac er mwyn i'r grwp hwnnw arfer pwerau adennill yn unol â rheoliad 9.

(4Yn rheoliad 7(2), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(dd)darparu adroddiad rheoli yn unol ag Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn 1975/2006; a

(e)penderfynu a fu diffyg cydymffurfiaeth ai peidio.

(5Yn rheoliad 7(3), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(dd)os yw'n angenrheidiol at ddibenion paragraff (2)—

(i)arolygu a chyfrif da byw ar y tir, a

(ii)ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd neu i'r buddiolwr, neu i unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i'r buddiolwr hwnnw, drefnu ar gyfer casglu'r da byw hynny, eu rhoi mewn lloc a'u diogelu.

(6Yn rheoliad 14(3)—

(a)yn is-baragraff (b) ar ôl y geiriau “y telir cymorth ar eu cyfer) mewnosoder “a rheoliad 16(5) (gwrthod ac adennill cymorth, terfynu a gwahardd)”,

(b)dileer is-baragraff (c),

(c)yn is-baragraff (ch), ar ôl “iddynt” dileer “.” a mewnosoder “; a”,

(ch)ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder—

(d)rheoliad 16(6) (Pwerau'r Cynulliad i adennill etc.) o Reoliadau Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd (Cymru) 2001(4)..

(7Mae paragraff (6)(b) yn adnewyddu'r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 14(3)(c) i'r graddau bod parhau i weithredu'r ddarpariaeth honno'n cael ei arbed gan reoliad 14(2).

(8Ym mharagraff 2 o'r Atodlen, yn lle “1689” rhodder “1698”.

(9Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff (7), ychwaneger—

8.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1975/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 o ran gweithredu gweithdrefnau rheoli yn ogystal â thrawsgydymffurfio o ran mesurau cefnogi datblygu gwledig.

9.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ar gefnogaeth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)..

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006

3.—(1Diwygier Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006(5) yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2, ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd..

(3Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff (10), ychwaneger—

11.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1975/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 o ran gweithredu gweithdrefnau rheoli yn ogystal â thrawsgydymffurfio o ran mesurau cefnogi datblygu gwledig.

12.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ar gefnogaeth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)..

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

3 Hydref 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3343) (Cy.304). Mae'r diwygiadau yn egluro diffiniad “buddiolwr” (yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2006), diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y Gymuned (rheoliad 2(1) o Reoliadau 2006 a'r Atodlen iddynt), darparu bod y cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y Gymuned yn gyfeiriadau at y ddeddfwriaeth honno fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(2) o Reoliadau 2006), darparu bod Gweinidogion Cymru yn cael gwneud taliadau drwy grwpiau lleol (rheoliad 3(3) o Reoliadau 2006), egluro pwerau arolygwyr (rheoliad 7(2) a (3) o Reoliadau 2006) a gwneud mân newidiadau i'r darpariaethau trosiannol (rheoliad 14(3) o Reoliadau 2006).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3342) (Cy.303). Mae'r diwygiadau yn diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y Gymuned (rheoliad 2(2) o Reoliadau 2006 a'r Atodlen iddynt).

(1)

O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006 p.32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources