Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3070 (Cy.264)

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

Gwnaed

23 Hydref 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Medi 2007

Yn dod i rym

24 Hydref 2007

Gweinidogion Cymru, o ran Cymru, yw'r awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddwyd gan adran 12(1), (2) a (3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(1), ac maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau hynny.

Yn unol ag adran 12(6) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori fel yr ystyrient yn briodol â'r personau hynny yr ymddangosai iddynt oedd yn cynrychioli buddiannau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy.

Yn unol ag adran 61(2) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo trwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(1)

2006 p.45. Mae'r swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.