Search Legislation

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 5

ATODLEN 6Amodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw lloi sy'n cael eu caethiwo ar gyfer eu magu a'u pesgi

Llety

1.—(1Rhaid peidio â chaethiwo unrhyw lo mewn côr neu gorlan unigol ar ôl wyth wythnos oed oni fydd milfeddyg yn ardystio bod ei iechyd neu ei ymddygiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ynysu er mwyn iddo gael triniaeth.

(2Rhaid i led unrhyw gôr neu gorlan unigol ar gyfer llo fod o leiaf yn hafal i uchder y llo wrth ei war, a fesurir ar ei sefyll, a rhaid i'r hyd fod o leiaf yn hafal i hyd corff y llo, a fesurir o flaen y trwyn hyd at ben cynffonog y tuber ischii (asgwrn y llosgwrn), wedi'u lluosi â 1.1.

(3Rhaid i gorau neu gorlannau unigol ar gyfer lloi (ac eithrio y rhai sy'n ynysu anifeiliaid sâl) gael waliau trydyllog sy'n caniatáu i'r lloi gael cysylltiad uniongyrchol, yn weledol a thrwy gyffwrdd.

(4Ar gyfer lloi a gedwir mewn grwpiau, y lwfans gofod dirwystr y mae'n rhaid iddo fod ar gael ar gyfer pob llo yw —

(a)o leiaf 1.5 m2 ar gyfer pob llo gyda phwysau byw llai na 150 kg;

(b)o leiaf 2 m2 ar gyfer pob llo gyda phwysau byw o 150 kg neu fwy ond llai na 200 kg; ac

(c)o leiaf 3 m2 ar gyfer pob llo gyda phwysau byw o 200kg neu fwy.

(5Rhaid i bob llo allu sefyll, troi o amgylch, gorwedd, gorffwyso a thacluso'i hun heb rwystr.

(6Rhaid i bob llo a gedwir ar ddaliad y cedwir dau neu fwy o loi arno allu gweld o leiaf un llo arall.

(7Nid yw is-baragraff (6) yn gymwys i unrhyw lo a gedwir wedi ei ynysu ar ddaliad ar gyngor milfeddygol, neu yn unol ag is-baragraff (1).

(8At ddibenion cyfrifo nifer y lloi a gedwir ar ddaliad er mwyn penderfynu a yw is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw lo a gedwir wedi'i ynysu ar y daliad hwnnw ar gyngor milfeddygol neu yn unol ag is-baragraff (1).

Archwilio

2.  Rhaid i bob llo a gedwir mewn adeilad gael ei archwilio gan berchennog neu gan berson arall sy'n gyfrifol am y lloi o leiaf ddwywaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.

3.  Rhaid i loi a gedwir y tu allan gael eu harchwilio gan berchennog neu gan berson arall sy'n gyfrifol am y lloi o leiaf unwaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.

Tenynnau

4.—(1Ni chaiff unrhyw berson sy'n gyfrifol am lo roi tennyn na pheri rhoi tennyn arno, ac eithrio lloi a gedwir mewn adeilad mewn grwp y caniateir rhoi tennyn arnynt am gyfnod nad yw'n hwy nag awr tra'n eu bwydo â llaeth neu amnewidyn llaeth.

(2Pan ddefnyddir tenynnau yn unol ag is-baragraff (1), rhaid iddynt beidio â pheri poen nac anaf i'r lloi a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'u haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.

(3Rhaid i bob tennyn fod wedi ei ddylunio i osgoi'r risg o dagu neu achosi poen neu anaf ac i ganiatáu i'r llo orwedd, gorffwys, sefyll a thacluso'i hun heb rwystr.

Adeiladau â golau artiffisial

5.  Pan gedwir lloi mewn adeilad â golau artiffisial, yna, yn ddarostyngedig i baragraff 16 o Atodlen 1, rhaid darparu golau artiffisial am gyfnod sydd o leiaf yn hafal i'r cyfnod o olau naturiol a geir fel arfer rhwng 9.00 am a 5.00 pm.

Glanhau a diheintio

6.—(1Rhaid i adeiladau, corau, corlannau, offer a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer lloi gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir mor aml ag y bo angen i atal traws-heintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.

(2Rhaid i ysgarthion, wrin a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael eu symud mor aml ag y bo angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.

Lloriau

7.  Pan gedwir lloi mewn adeilad, rhaid i'r lloriau fod —

(a)yn llyfn heb fod yn llithrig;

(b)wedi'u dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal fel na fyddant yn peri anaf na dioddefaint i'r lloi wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;

(c)yn addas ar gyfer maint a phwysau'r lloi; ac

(ch)yn ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.

Gwasarn a man gorwedd

8.—(1Rhaid darparu gwasarn priodol ar gyfer pob llo.

(2Rhaid i bob llo gael ei gadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddo bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd yn lân, yn gysurus ac wedi'i draenio'n ddigonol ac nad yw'n effeithio'n andwyol ar y lloi.

(3Rhaid i bob llo a gedwir mewn adeilad a lloi a gedwir mewn cytiau neu adeileddau dros dro gael eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddo bob amser allu mynd i fan gorwedd, sy'n cael ei gynnal yn dda â gwasarn sych.

Cynlaeth buchol

9.  Rhaid i bob llo gael cynlaeth buchol cyn gynted â phosibl ar ôl ei eni a beth bynnag o fewn y chwe awr gyntaf o'i fywyd.

Gofynion dietegol ychwanegol

10.—(1Rhaid darparu bwyd sy'n cynnwys digon o haearn i sicrhau lefel hemoglobin gwaed o 4.5 mmol/litr o leiaf ar gyfer pob llo.

(2Rhaid darparu lleiafswm o ddogn dyddiol o fwyd ffibraidd ar gyfer pob llo dros 2 wythnos oed, gan gynyddu'r swmp yn unol â thyfiant y llo o leiafswm o 100g pan yw'n 2 wythnos oed hyd at leiafswm o 250g pan yw'n 20 wythnos oed.

Safnrwymo

11.  Rhaid peidio â safnrwymo lloi.

Bwydo

12.—(1Rhaid bwydo pob llo o leiaf ddwywaith y dydd.

(2Pan letyir lloi mewn grwp heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan na fwydir hwy gan system fwydo awtomatig, rhaid i bob llo gael mynd at fwyd ar yr un adeg â'r lleill sydd yn y grwp bwydo.

Dwr yfed

13.—(1Rhaid darparu cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres ar gyfer pob llo bob dydd.

(2Rhaid darparu dwr ffres ar gyfer lloi bob amser—

(a)mewn tywydd poeth; neu

(b)pan fyddant yn sâl.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources