Rheoliad 5
1. Pan gedwir gwartheg godro sy'n llaetha neu'n bwrw lloi mewn adeilad, rhaid iddynt allu mynd bob amser i fan gorwedd sydd wedi'i ddraenio'n dda ac sy'n cynnwys gwasarn.
2. Rhaid i gorlan neu fuarth mewn adeilad a ddefnyddir ar gyfer gwartheg sy'n bwrw lloi fod o faint sy'n caniatáu i berson ofalu am y gwartheg
3. Rhaid i wartheg sy'n bwrw lloi ac a gedwir mewn adeilad gael eu cadw ar wahân i dda byw eraill, ac eithrio gwartheg sy'n bwrw lloi.