Lletya mewn grwpiau
29. Pan gedwir banwesod a/neu hychod mewn grwpiau, rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob banwes ar ôl serfio ac i bob hwch, yn eu trefn, fod yn 1.64 m2 o leiaf a 2.25 m2 o leiaf. Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o chwe unigolyn neu lai, rhaid cynyddu yr arwynebedd llawr dirwystr 10%. Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o 40 neu ragor o unigolion, caniateir lleihau yr arwynebedd llawr dirwystr 10%.