Argyfwng cemegol, biolegol, radiolegol neu niwclear2

1

Rhaid i awdurdod tân ac achub ddarparu yn ei ardal at ddibenion—

a

gwaredu halogion cemegol, biolegol neu ymbelydrol oddi ar bobl os bydd argyfwng3 sy'n golygu bod halogion o'r fath yn cael, neu y gallant gael, eu gollwng; a

b

dal, am gyfnod rhesymol, unrhyw ddwr a ddefnyddir at ddiben a grybwyllwyd yn is-baragraff (a).

2

Wrth gymryd camau at ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1), rhaid i awdurdod tân ac achub wneud trefniadau ar gyfer sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i atal niwed difrifol i'r amgylchedd neu i gyfyngu ar niwed o'r fath.