Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2007

Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 13 Rhagfyr 2007

2.  Mae darpariaethau canlynol Deddf Tai 2004 yn dod i rym ar 13 Rhagfyr 2007:

(a)adran 225, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym(1);

(b)adran 226;

(c)adran 265(1), i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 47 o Atodlen 15.

(1)

I'r graddau y mae darpariaeth yn Neddf 2004 yn rhoi pwer i wneud gorchymyn neu reoliadau yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, daeth i rym ar ddyddiad pasio'r Ddeddf honno yn rhinwedd adran 270(2)(b) o'r Ddeddf.