2007 Rhif 3252 (Cy.287)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
at ddibenion rheoliadau 5, 7 a 14(3)
at bob diben arall
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(a) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer pwrpas a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn fuddiol i rai cyfeiriadau at un o offerynnau'r Gymuned, neu at Atodiad i un o offerynnau'r Gymuned, fel y'i nodir yn rheoliad 2(4), gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn neu'r Atodiad hwnnw fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf 1990 maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sydd yn pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop, ac yn pennu gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd3, cynhaliwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod y broses o baratoi ac arfarnu'r Rheoliadau hyn.