- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
11.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu neu fewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion ac —
(a)y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd; a
(b)y gellir trosglwyddo'i gyfansoddion i fwyd mewn meintiau sydd yn fwy na therfyn ymfudo o 10 miligram y decimetr sgwâr o wyneb y deunydd neu'r eitem sydd mewn cysylltiad â bwyd.
(2) Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion ac—
(a)sydd yn gynhwysydd, neu'n debyg i gynhwysydd, neu y gellir ei lenwi i gynhwysedd o ddim llai na 500 mililitr a dim mwy na 10 litr; neu
(b)y gellir ei lenwi, ac nad oes modd ymarferol i amcangyfrif maint yr arwynebedd arno sydd mewn cysylltiad â bwyd; neu
(c)sydd yn gap, yn gasged, yn gaead neu'n ddyfais gyffelyb ar gyfer selio,
mae'r terfyn ymfudo cyflawn i fod yn drosglwyddiad o 60 miligram o gyfansoddion fesul cilogram o fwyd.
(3) Ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu neu fewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig sydd wedi ei araenu â phlastigion a weithgynhyrchwyd gydag unrhyw sylwedd a restrir yn Adran A neu B o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/72/EC (monomerau a awdurdodir, a sylweddau cychwyn eraill) —
(a)y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd; a
(b)y gellir trosglwyddo ei gyfansoddion i fwyd mewn meintiau sy'n fwy na'r terfynau ymfudo penodol a restrir yng ngholofn 4 o'r Adrannau hynny, fel y'i darllenir gyda'r cyflwyniad cyffredinol i'r Atodiad hwnnw.
(4) Pan fo'r terfyn ymfudo ar gyfer sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn cael ei fynegi mewn miligramau fesul cilogram, yn achos caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastig —
(a)sydd yn gynhwysydd, neu'n debyg i gynhwysydd, neu y gellir ei lenwi i gynhwysedd o ddim llai na 500 mililitr a dim mwy na 10 litr; neu
(b)nad oes modd ei lenwi, neu nad oes modd ymarferol i amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd y caen a maint y bwyd sydd mewn cysylltiad ag ef,
mae'r terfyn ymfudo i gael ei rannu â'r ffactor trawsnewid o 6 er mwyn ei fynegi mewn miligramau o gyfansoddion a drosglwyddir fesul decimetr sgwâr o'r deunydd neu'r eitem sydd mewn cysylltiad â bwyd.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae'r gwiriad o gydymffurfiad â therfynau ymfudo i'w gynnal yn unol â darpariaethau Atodlenni 2 a 3 i Reoliadau 2006, fel y'i darllenir gyda rheoliad 11 o'r Rheoliadau hynny; ac at ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at ddeunydd neu eitem blastig i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at gaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastig.
(6) Nid yw Paragraff (5) yn gymwys dan unrhyw amgylchiadau y mae rheoliad 9(1) neu (2) yn gymwys iddynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: