Gorfodi
14.—(1) Bydd pob awdurdod bwyd oddi mewn i'w ardal, a phob awdurdod iechyd porthladd oddi mewn i'w gylch, yn gweithredu ac yn gorfodi —
(a)darpariaethau Rheoliad 1935/2004 a grybwyllir yn rheoliad 4, a
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (3), y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd weithredu a gorfodi, yn ogystal, ddarpariaethau Erthyglau 16(1) a 17(2).
(3) Bydd pob awdurdod bwyd, oddi mewn i'w ardal, yn gweithredu ac yn gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a grybwyllir yn rheoliad 5.