RHAN 4ADENILL TREULIAU
Treuliau sy'n codi oddi wrth reolaethau swyddogol41.
Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 28 o Reoliad 882/2004 gan y gweithredydd wrth gael gorchymyn i wneud hynny gan yr awdurdod cymwys.
Treuliau sy'n codi o ran cymorth wedi ei gyd-drefnu a gwaith dilynol gan y Comisiwn42.
Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar fusnes bwyd anifeiliaid neu ar fusnes bwyd yn unol ag Erthygl 40(4) o Reoliad 882/2004 gael eu talu gan y busnes bwyd anifeiliaid neu gan y busnes bwyd wrth gael gorchymyn i wneud hynny gan yr awdurdod cymwys.