ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL
ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;
ATODLEN 2DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL
ystyr “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yw —
(a)
(b)
(c)
(d)
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i'r graddau y maent yn gymwys o ran bwyd anifeiliaid.
(e)
(f)
ATODLEN 3DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL
ystyr “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yw —
(a)
cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â —
- (i)rheoli gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a sylweddau eraill o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 199730,
- (ii)rheoli gweddillion plaleiddiaid o dan Reoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion mewn Cnydau, Bwyd a Bwydydd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 200531,
- (iii)cymhwyso rheolau y caniateir cydnabod arbenigedd traddodiadol a warentir odanynt ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol osodir yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 509/2006 ar gynhyrchion amaethyddol a bwydydd fel arbenigeddau traddodiadol a warentir32,
- (iv)cymhwyso rheolau a osodir ar gyfer gwarchod dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol a osodir yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 510/2006 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a bwydydd33,
- (v)
- (vi)rheoli labelu cig eidion o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 200136, a
- (vii)
rheoli mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid —
- (aa)o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 199637, ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 3 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth, a
- (bb)o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 200538, ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 5 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth;
- (aa)
- (viii)y materion a reolir o dan Atodlen 2 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 200639 i'r graddau y mae'r Atodlen honno yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir er mwyn i bobl eu bwyta, ynghyd â'r materion a gwmpesir gan bwynt 2 o Ran II o Bennod A o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau er mwyn atal, rheoli a difa enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol40
(b)
cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau a gwrthrychau mewn cysylltiad â bwyd; ac
(c)
cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliadau 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.
ATODLEN 4AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Eitem | Yr awdurdod cymwys | Y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004 |
1. | Yr Asiantaeth | Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 19(1), (2) a (3), 24, 31(1) a (2)(f), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54 |
2. | Yr awdurdod bwyd anifeiliaid | Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i 3 a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54 |
ATODLEN 5AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Eitem | Yr awdurdod cymwys | Y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004 |
1. | Yr Asiantaeth | Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 14, 19(1), (2) a (3), 24, 31(1) a (2), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54 |
2. | Yr awdurdod bwyd | Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54 |