Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 14 Ionawr 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Dirymir y rheoliadau a geir yn Atodlen 1.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “absenoldeb nas awdurdodwyd” (“unauthorised absence”) yw achlysur pan gofnodir bod disgybl yn absennol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995 ac mae “absenoldeb a awdurdodwyd” (“authorised absence”) i'w ddehongli'n unol â hynny;

mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;

mae i “anhawster dysgu” yr ystyr a roddir i “learning difficulty” yn adran 312(2) o Ddeddf 1996(1);

ystyr “arholiadau TAG Safon Uwch” (“GCEAlevel examinations”) ac “arholiadau TAG Uwch Gyfrannol” (“GCEASexaminations”) yw arholiadau Tystysgrif Addysg Gyffredinol Safon Uwch ac arholiadau Tystysgrif Addysg Gyffredinol Uwch Gyfrannol, yn y drefn honno;

ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar ddechrau'r tymor ysgol cyntaf sy'n dechrau ar ôl mis Gorffennaf, ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath sy'n dechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;

ystyr “cofrestr” (“register”) yw'r gofrestr ddisgyblion a gedwir o dan adran 434(2) o Ddeddf 1996 ac yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995(3);

ystyr “cydlynydd gwybodaeth” (“information collator”) yw cydlynydd gwybodaeth yn ystyr adran 537A(9) o Ddeddf 1996, sef unrhyw gorff sydd yn gyfrifol, at ddibenion swyddogaethau addysg Gweinidogion Cymru neu mewn cysylltiad â hwy, am gydlynu neu wirio gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion;

ystyr “cyfeirnod gweithgaredd dysgu” (“learning activity reference”) yw cyfuniad o rifau sydd, ynghyd â llythyren, yn cael eu dyrannu i gwrs astudiaeth neu weithgaredd dysgu arall ac sy'n benodol i'r cwrs hwnnw neu i'r gweithgaredd dysgu hwnnw, ac a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru;

ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw un neu rai o'r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (a) i (d) yn y drefn honno o adran 103(1) o Ddeddf 2002 ac mae cyfeiriad at gyfnod allweddol un, dau neu dri yn gyfeiriad at y cyfnodau a nodir yn y drefn honno ym mharagraffau (a), (b) ac (c) o adran 103(1) a enwyd eisoes;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(4);

ystyr “disgybl chweched dosbarth” (“sixth form pupil”) yw disgybl mewn ysgol, nad yw'n ysgol arbennig, sy'n cael addysg addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol;

ystyr “dyddiad gwahardd parhaol” (“permanent exclusion date”) yw'r dyddiad y caiff enw disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol ei ddileu o'r gofrestr;

ystyr “gwybodaeth am ddisgyblion unigol” (“individual pupil information”) yw gwybodaeth yn ystyr adran 537A(9) o Ddeddf 1996, sef gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion neu gyn-ddisgyblion unigol (mewn ysgolion yng Nghymru) ac sy'n eu henwi, p'un ai o dan adran 537A(1) o Ddeddf 1996 y cafwyd yr wybodaeth neu fel arall;

ystyr “GNVQ” (“GNVQ”) yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;

mae i “plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “child looked after by a local authority” gan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989(5);

ystyr “Rhif unigryw disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau sydd, ynghyd â llythyren neu lythrennau, yn cael eu dyrannu i ddisgybl ac sy'n benodol i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru;

mae'r ymadrodd “sesiynau ysgol” (“school sessions”) i'w ddehongli'n unol â rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Diwrnod Ysgol a Blwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(6);

ystyr “TGAU” (“GCSE”) yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd;

ystyr “wedi ei wahardd yn barhaol” (“permanently excluded”) mewn perthynas â disgybl yw disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol o'r ysgol am resymau disgyblu;

ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ond nid yw'n cynnwys uned cyfeirio disgyblion; ac

mae i “ysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 1996(7).

Ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol yn darparu gwybodaeth ar gyfer eu hawdurdodau addysg lleol

4.  O fewn pedwar diwrnod ar ddeg ar ôl cael cais ysgrifenedig gan yr awdurdod addysg lleol y cynhelir ysgol ganddo, rhaid i'r corff llywodraethu roi i'r awdurdod ar ffurf sy'n ddarllenadwy gan beiriant, drwy wefan ddiogel ar y rhyngrwyd a ddarparwyd at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru, gymaint o'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn ag y gofynnir amdani felly.

Personau Rhagnodedig

5.—(1At ddibenion adran 537A(4) o Ddeddf 1996, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi'r canlynol yn berson y caniateir iddynt ddarparu ar ei gyfer wybodaeth am ddisgyblion unigol—

(a)unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) isod; a

(b)unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (3) isod.

(2Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) uchod yw—

(a)yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol nas cynhelir felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir ynddi'r ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi;

(b)person sy'n dal Swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales;

(c)Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru; ac

(ch)y cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(8).

(3Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol i'r diben hwnnw.

(4At ddibenion adran 537A(5)(b) o Ddeddf 1996, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi'r canlynol yn berson y caniateir i gydlynydd gwybodaeth roi gwybodaeth iddo am ddisgyblion unigol fel a ganlyn—

(a)unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (6) isod; a

(b)unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (7) isod.

(5Yr wybodaeth am ddisgyblion unigol y caniateir i gydlynydd gwybodaeth ei rhoi felly, ar yr adegau y byddo i Weinidogion Cymru benderfynu arnynt, yn unol ag adran 537A(5)(b) o Ddeddf 1996, yw unrhyw wybodaeth o'r fath sy'n ymwneud â chyflawniadau addysgol disgyblion yn y canlynol—

(a)unrhyw asesiad Cwricwlwm Cenedlaethol a wneir o ddisgyblion yng nghyfnod allweddol un, dau neu dri;

(b)unrhyw bynciau TGAU;

(c)unrhyw arholiadau TAG Safon Uwch;

(ch)unrhyw arholiadau TAG Uwch Gyfrannol;

(d)unrhyw bynciau GNVQ; ac

(dd)unrhyw gwrs astudio a ddarperir ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n gwrs sy'n arwain at gymhwyster a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru neu gan gorff a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(9) (ac eithrio cymhwyster o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod).

(6Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(a) uchod yw—

(a)yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol nas cynhelir felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir ynddi'r ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi; a

(b)person sy'n dal Swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales.

(7Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol i'r diben hwnnw.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

17 Rhagfyr 2007