Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 ac yn eu hailddeddfu'n sylweddol fel y'u diwygiwyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir, pan fydd cais ysgrifenedig yn dod i law oddi wrth yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol, gyflenwi, o fewn pedair diwrnod ar ddeg, y cyfryw wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen ag y bydd yr awdurdod yn gofyn amdano mewn cysylltiad â disgyblion yn yr ysgol.
Mae rheoliad 5 yn rhagnodi'r personau y caniateir i Weinidogion Cymru roi gwybodaeth iddynt am ddisgyblion unigol o dan adran 537A(4) o Ddeddf Addysg 1996, a'r wybodaeth am ddisgyblion unigol y caniateir i “gydlynwyr gwybodaeth” ei darparu. O gymhwyso i Gymru y diffiniad o gydlynydd gwybodaeth a geir yn adran 537A(9) o Ddeddf Addysg 1996, cydlynydd gwybodaeth yw unrhyw gorff sydd yn gyfrifol, at ddibenion swyddogaethau addysg Gweinidogion Cymru neu mewn cysylltiad â'r swyddogaethau hynny, am gydlynu neu wirio gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion. Mae'r wybodaeth y mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu iddynt ei darparu yn ymwneud â chyflawniadau addysgol disgyblion mewn unrhyw arholiadau TAG Safon Uwch, unrhyw arholiadau TAG Uwch Gyfrannol, unrhyw bynciau GNVQ ac mewn unrhyw gwrs astudiaeth a ddarperir ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac sy'n gwrs sy'n arwain at gymhwyster a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru neu gan gorff a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.