ATODLEN 2Darparu Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol
RHAN 1
Pob Disgybl
1
Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl—
a
Rhif unigryw cyfredol y disgybl ac, os bu gan yr ysgol rif unigryw blaenorol ar gyfer y disgybl hwnnw, y Rhif blaenorol;
b
cyfenw;
c
enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
ch
enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
d
rhyw;
dd
dyddiad geni;
e
grwp ethnig;
f
hunaniaeth genedlaethol;
ff
dyddiad derbyn y disgybl i'r ysgol; ac
g
grŵp blwyddyn y Cwricwlwm Cenedlaethol yr addysgir y disgybl ynddo.
2
Cod post y cartref lle y mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.
3
A gafodd yr wybodaeth am grŵp ethnig a hunaniaeth genedlaethol y disgybl a ddarparwyd yn rhinwedd yr Atodlen hon ei darparu gan—
a
y disgybl;
b
rhiant;
c
yr ysgol;
ch
ysgol flaenorol; neu
d
unrhyw ffynhonnell arall.
4
Pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.
5
A yw'r disgybl yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith.
6
A gafodd yr wybodaeth am lefel rhugledd y disgybl yn y Gymraeg a ddarparwyd yn rhinwedd y Rhan hon ei darparu gan—
a
y disgybl;
b
rhiant;
c
yr ysgol;
ch
ysgol flaenorol; neu
d
unrhyw ffynhonnell arall.
7
A yw'r disgybl yn astudio unrhyw bwnc, ac eithrio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith, drwy gyfrwng y Gymraeg.
8
A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 199612, wedi gwneud cais am gael prydau bwyd am ddim yn yr ysgol ac wedi ei gael yn gymwys.
9
A oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad ynghylch—
a
prif angen y disgybl ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd;
b
pa lefel a pha fath o ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig, sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”, a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei gwneud i'r disgybl hwnnw; ac
c
y cymorth a ddarperir.
10
Pan yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, y ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.
11
A yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, wedi bod yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol tra bu ar gofrestr yr ysgol, ac, os felly, enw'r awdurdod lleol yr oedd y disgybl yn derbyn gofal ganddo yn fwyaf diweddar.
12
Yn achos ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty a yw'r disgybl yn byrddio yn yr ysgol ac, os felly, a yw'r disgybl yn byrddio am saith noson yr wythnos neu am lai na saith noson yr wythnos.
13
A yw'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol neu mewn mwy nag un ysgol ac, os yw'r disgybl wedi ei gofrestru'n ddisgybl mewn mwy nag un ysgol, a yw'r wybodaeth amdano yn cael ei llunio gan yr ysgol y mae'r disgybl yn ei mynychu am y rhan fwyaf o'i amser.
14
A yw'r disgybl yn ddisgybl rhan-amser ac, at ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhan-amser” (“part-time”) yw bod y disgybl yn mynychu llai na deg sesiwn ysgol mewn unrhyw wythnos pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.
15
Yn achos ysgol nad yw'n ysgol arbennig, a yw'r disgybl yn cael addysg—
a
mewn dosbarth meithrin;
b
mewn dosbarth arbennig a ddynodwyd felly gan yr awdurdod addysg lleol neu a drefnwyd felly gan yr ysgol; neu
c
mewn dosbarth prif ffrwd nad yw wedi ei ddynodi'n ddosbarth arbennig gan yr awdurdod addysg lleol neu wedi ei drefnu'n ddosbarth arbennig gan yr ysgol.
16
Cyfanswm nifer y canlynol—
a
sesiynau ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol pan oedd y disgybl yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol;
b
y sesiynau ysgol hynny yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaeth y disgybl eu mynychu; ac
c
nifer yr absenoldebau a awdurdodwyd a'r absenoldebau nas awdurdodwyd ar gyfer y disgybl.