Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007

RHAN 1

Pob Disgybl

1.  Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl—

(a)Rhif unigryw cyfredol y disgybl ac, os bu gan yr ysgol rif unigryw blaenorol ar gyfer y disgybl hwnnw, y Rhif blaenorol;

(b)cyfenw;

(c)enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;

(ch)enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;

(d)rhyw;

(dd)dyddiad geni;

(e)grwp ethnig;

(f)hunaniaeth genedlaethol;

(ff)dyddiad derbyn y disgybl i'r ysgol; ac

(g)grŵp blwyddyn y Cwricwlwm Cenedlaethol yr addysgir y disgybl ynddo.

2.  Cod post y cartref lle y mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.

3.  A gafodd yr wybodaeth am grŵp ethnig a hunaniaeth genedlaethol y disgybl a ddarparwyd yn rhinwedd yr Atodlen hon ei darparu gan—

(a)y disgybl;

(b)rhiant;

(c)yr ysgol;

(ch)ysgol flaenorol; neu

(d)unrhyw ffynhonnell arall.

4.  Pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.

5.  A yw'r disgybl yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith.

6.  A gafodd yr wybodaeth am lefel rhugledd y disgybl yn y Gymraeg a ddarparwyd yn rhinwedd y Rhan hon ei darparu gan—

(a)y disgybl;

(b)rhiant;

(c)yr ysgol;

(ch)ysgol flaenorol; neu

(d)unrhyw ffynhonnell arall.

7.  A yw'r disgybl yn astudio unrhyw bwnc, ac eithrio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith, drwy gyfrwng y Gymraeg.

8.  A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996(1), wedi gwneud cais am gael prydau bwyd am ddim yn yr ysgol ac wedi ei gael yn gymwys.

9.  A oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad ynghylch—

(a)prif angen y disgybl ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd;

(b)pa lefel a pha fath o ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig, sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”, a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei gwneud i'r disgybl hwnnw; ac

(c)y cymorth a ddarperir.

10.  Pan yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, y ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.

11.  A yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, wedi bod yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol tra bu ar gofrestr yr ysgol, ac, os felly, enw'r awdurdod lleol yr oedd y disgybl yn derbyn gofal ganddo yn fwyaf diweddar.

12.  Yn achos ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty a yw'r disgybl yn byrddio yn yr ysgol ac, os felly, a yw'r disgybl yn byrddio am saith noson yr wythnos neu am lai na saith noson yr wythnos.

13.  A yw'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol neu mewn mwy nag un ysgol ac, os yw'r disgybl wedi ei gofrestru'n ddisgybl mewn mwy nag un ysgol, a yw'r wybodaeth amdano yn cael ei llunio gan yr ysgol y mae'r disgybl yn ei mynychu am y rhan fwyaf o'i amser.

14.  A yw'r disgybl yn ddisgybl rhan-amser ac, at ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhan-amser” (“part-time”) yw bod y disgybl yn mynychu llai na deg sesiwn ysgol mewn unrhyw wythnos pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.

15.  Yn achos ysgol nad yw'n ysgol arbennig, a yw'r disgybl yn cael addysg—

(a)mewn dosbarth meithrin;

(b)mewn dosbarth arbennig a ddynodwyd felly gan yr awdurdod addysg lleol neu a drefnwyd felly gan yr ysgol; neu

(c)mewn dosbarth prif ffrwd nad yw wedi ei ddynodi'n ddosbarth arbennig gan yr awdurdod addysg lleol neu wedi ei drefnu'n ddosbarth arbennig gan yr ysgol.

16.  Cyfanswm nifer y canlynol—

(a)sesiynau ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol pan oedd y disgybl yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(b)y sesiynau ysgol hynny yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaeth y disgybl eu mynychu; ac

(c)nifer yr absenoldebau a awdurdodwyd a'r absenoldebau nas awdurdodwyd ar gyfer y disgybl.

(1)

Amnewidiwyd adrannau 512 a 512ZB gan adran 202(1) o Ddeddf 2002.