2007 Rhif 3611 (Cy.318) (C.157)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 11 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2007

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 216(4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 20021 ac a freiniwyd bellach ynddynt2 yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 11 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2007.

2

Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.

3

Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Diwrnodau penodedig4

1

Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 2 Ionawr 2008.

2

Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 31 Mawrth 2008.

Darpariaethau trosiannol ac arbed5

Mae Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn (Darpariaethau trosiannol ac arbed) yn gymwys.

Jane HuttY Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

Erthyglau 4 a 5

RHAN 1Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 2 Ionawr 2008

Darpariaeth

Y pwnc

Adran 18(1)

Diddymu pwerau gwneud grantiau

Adran 26

Cydweithredu rhwng ysgolion

Adran 31 at bwrpas gwneud rheoliadau

Rheoli mangreoedd ysgolion

Adran 38

Gohebu ag ysgolion

Adrannau 57 i 59

Aelodau gweithredol interim

Adran 75 yn llawn

Ad-drefnu ysgol

Adran 146 yn llawn

Diddymu adrannau 218 a 218A o Ddeddf Diwygio Addysg 1988

Adran 151(1)

Swyddogaethau gofal plant

Adran 152 yn llawn

Rheoleiddio gwarchod plant a gofal dydd

Adran 178(2)

Hyfforddiant ac addysg yn y gweithle

Adran 187

Parthau camau addysg

Adran 215 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlenni 21 a 22 isod

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

Atodlen 6

Aelodau gweithredol interim

Atodlen 10 yn llawn

Ad-drefnu ysgol

Atodlen 13, paragraff 4

Gwarchod plant a gofal dydd

Atodlen 15

Parthau camau addysg

Atodlen 21, paragraffau 3, 5, 6, 7, 10, 15, 55, 69, 71, 79, 80, 82, 84, 90, 111, 115 (5)(b), 124(1) a (2), 126(3) yn llawn

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Yn Rhan 3 o Atodlen 22, diddymu—

Diddymu

Deddf Addysg 1967

Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975, yn Atodlen 2, paragraff 4.

Deddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, adran 1(6).

Deddf Addysg 1986, adran 1(1)(b) a'r gair “and” yn union o'i blaen; adrannau 2 i 4.

Deddf Diwygio Addysg 1988, adrannau 160, 210, 211, 218 (yn llawn).

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, adran 98(2)(c)(ii).

Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, yn adran 37, is-adran (1)(b) a'r gair “or” yn union o'i blaen ac is-adrannau (8)(a) a (9), yn Atodlen 8, paragraffau 46, 47, 49, 83.

Deddf Addysg 1994, yn Atodlen 2, paragraff 8(4).

Deddf Addysg Feithrin ac Ysgolion a Gynhelir â Grant 1996.

Deddf Addysg 1996, yn adran 318, yn is-adran (3A) paragraff (b) a'r gair “or” yn union o'i blaen, yn adran 484, yn is-adran (2) y geiriau “England and” ac is-adran (6), adrannau 486 i 488, adran 491, yn adran 509A(5)(b), is-baragraff (ii) a'r gair “or” yn union o'i blaen, yn adran 545(2)(a), y geiriau “or section 218(7) of the Education Reform Act 1988”, yn adran 548(8), ym mharagraff (b), is-baragraff (ii) a'r gair “or” o flaen yr is-baragraff hwnnw, yn adran 578, y cofnodion ynghylch Deddf Addysg 1967 a Deddf Addysg Feithrin ac Ysgolion a Gynhelir â Grant 1996, yn Atodlen 37, paragraff 13, paragraffau 76 a 131.

Deddf Addysg 1997, adran 49 (yn llawn), yn Atodlen 7, paragraffau 8, 14, 27, 28.

Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adrannau 10, 11, 13, 18, yn Atodlen 3, paragraff 5.

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adrannau 3, 10(3) a (7), yn adran 11, yn is-adran (2) y geiriau o “and” hyd at y diwedd, ac is-adran (3), yn Atodlen 4, paragraff 5(4)(e), yn Atodlen 26, ym mharagraff 1, is-baragraff (1)(c) a'r gair “or” o'i flaen, yn Atodlen 30, paragraffau 14, 17, 56, ym mharagraff 74 is-baragraffau (2) a (3) ac yn is-baragraff (4) paragraff (b) a'r gair “and” o'i flaen, paragraffau 85 i 90.

Deddf Dysgu a Medrau 2000, yn Atodlen 9, paragraffau 18, 58, ym mharagraff 59, is-baragraff (7)(b) ac (c) a pharagraff 91.

RHAN 2Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2008

Darpariaeth

Y pwnc

Adran 31 yn llawn

Rheoli mangreoedd ysgolion

Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod

Diddymiadau

Yn Rhan 3 o Atodlen 22, diddymu—

Diddymu

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 40, Atodlen 13

RHAN 3Darpariaethau trosiannol ac arbed

1

Er bod adran 38 yn dod i rym, nid yw'r ddyletswydd i baratoi a chyhoeddi adroddiad o dan adran 38(3) yn gymwys o ran unrhyw flwyddyn academaidd cyn y flwyddyn academaidd 2008 i 2009.

2

Er bod adran 218(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn cael ei diddymu, mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 20023 yn parhau mewn grym (a gallant gael eu diwygio neu eu dirymu gan reoliadau a wneir o dan adran 136(a)).

3

Er bod adran 218(1)(e) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn cael ei diddymu, mae rheoliadau 4, 5 a 7 o Reoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989 ac Atodlen 1 iddynt4 yn parhau mewn grym (a gallant gael eu diwygio neu eu dirymu gan reoliadau a wneir o dan adran 203(3)).

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 2 Ionawr 2008 ac ar 31 Mawrth 2008 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Caiff y darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 2 Ionawr 2008 yr effaith a ganlyn—

  • Mae cychwyn gweddill adran 18 yn diddymu pwerau amrywiol ar gyfer gwneud grantiau (a ddisodlwyd gan adran 14 a gychwynnwyd ar 31 Mawrth 2003).

  • Mae adran 26 yn galluogi Gweinidogion Cymru (y mae swyddogaethau wedi'u breinio ynddynt bellach yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006) i wneud rheoliadau sy'n caniatau i gyrff llywodraethu ysgolion gydweithredu.

  • Mae adran 31 yn ymwneud â rheoli mangreoedd ysgolion ac fe'i dygir i rym at bwrpas gwneud rheoliadau.

  • Mae adran 38 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru i roi sylw i'r ffaith ei bod yn ddymunol osgoi anfon gormodedd o ddeunyddiau at ysgolion a gosod gormodedd o feichiau gweinyddol. Bydd yn rhaid iddynt baratoi adroddiad o ran pob blwyddyn academaidd ar y dogfennau a anfonir at yr holl gyrff llywodraethu neu benaethiaid ysgolion yng Nghymru.

  • Mae adrannau 57 i 59 ac Atodlen 6 yn galluogi awdurdod addysg lleol, os bydd yn ofynnol i ysgol wella'n arwyddocaol neu os bydd yn ofynnol cael mesurau arbennig neu os yw corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio gydag hysbysiad rhybudd, i benodi corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn arbennig (a ffurfiwyd o aelodau gweithredol interim) i ddisodli corff llywodraethu presennol ysgol. Galluogir Gweinidogion Cymru hefyd i benodi corff llywodraethu o'r fath os bydd yn ofynnol i ysgol wella'n arwyddocaol neu os bydd yn ofynnol cael mesurau arbennig.

  • Mae cychwyn gweddill adran 146 yn diddymu'r cyfan o adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.

  • Darpariaethau eraill sydd o ganlyniad i gychwyn adrannau 18 a 146, ac hefyd darpariaethau sy'n gymwys i Loegr yn unig ac sydd eisoes wedi'u dwyn i rym gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond fe'u cynhwysir yn unig er mwyn sicrhau bod Deddf Addysg 2002 yn cychwyn yn llawn.

Caiff y darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2008 yr effaith a ganlyn—

  • Mae adran 31 (a gychwynir yn llawn) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynglyn â rheoli mangreoedd ysgolion.

  • Mae adran 215(2) ac Atodlen 22 (a gychwynir yn rhannol) yn cynnwys diddymiadau canlyniadol.

Mae Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Darpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adrannau 14 i 17

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 18(2)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran (19)(6) (yn rhannol)

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 19 (1) i (7) (yn llawn)

31 Hydref 2005

2005/2910 (Cy.207)

Adran 20(1) i (3), (5)

31 Hydref 2005

2005/2910 (Cy.207)

Adrannau 21 a 22

1 Medi 2004

2004/1728 (Cy.172)

Adran 23

31 Hydref 2005

2005/2910 (Cy.207)

Adrannau 27 a 28

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 29

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 30

1 Medi 2004

2004/1728 (Cy.172)

Adran 32

1 Medi 2004

2004/1728 (Cy.172)

Adrannau 33 a 34

31 Hydref 2005

2005/2910 (Cy.207)

Adran 35

1 Ebrill 2006

2006/879 (Cy.84)

Adran 36

1 Ebrill 2006

2006/879 (Cy.84)

Adran 37

1 Ebrill 2006

2006/879 (Cy.84)

Adran 39(1) (yn rhannol)

1 Medi 2004

2004/1728 (Cy.178)

Adran 39 (yn llawn)

31 Hydref 2005

2005/2910 (Cy.207)

Adran 40 (yn rhannol)

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 40 (yn rhannol)

1 Ebrill 2006

2006/879 (Cy.84)

Adran 41

4 Rhagfyr 2003

2003/2961 (Cy.278)

Adran 42

4 Rhagfyr 2003

2003/2961 (Cy.278)

Adran 43

1 Tachwedd 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 46

1 Rhagfyr 2003

2003/2961 (Cy.278)

Adran 49

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 50

31 Mai 2005

2005/1395 (Cy.109)

Adran 51 (yn rhannol)

9 Ionawr 2004

2003/2961 (Cy.278)

(yn rhannol)

31 Mawrth 2004

2004/912 (Cy.95)

(yn rhannol)

31 Mai 2005

2005/1395 (Cy.109)

Adran 52 (yn rhannol)

9 Ionawr 2004

2003/2961 (Cy.278)

(yn llawn)

31 Hydref 2005

2005/2910 (Cy.207)

Adran 53

31 Hydref 2005

2005/2910 (Cy.207)

Adrannau 54 i 56

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 60 i 64

1 Awst 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 72

1 Awst 2004

2004/1728 (Cy.172)

Adran 75 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 97 a 98

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 99(1)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 100 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 101 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 103

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 105 i 107

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 108 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 109

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 111 i 118

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 119

1 Hydref 2002

2002/2439

Adran 120(1) a (3) i (5)

1 Hydref 2002

2002/2439

Adran 120(2)

1 Awst 2003

2003/1667

Adran 121

1 Hydref 2002

2002/2439

Adrannau 122 i 129

1 Awst 2003

2003/1667

Adran 130 (yn rhannol)

1 Hydref 2002

2002/2439

(yn llawn)

1 Awst 2003

2003/1667

Adran 131

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 132 a 133

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 134 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 135

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 136 i 140

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 141

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 142 i 144

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 145

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 146 (yn rhannol)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 148 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

31 Mai 2006

2006/1336 (Cy.129)

Adran 149

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 150

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 151(2)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 152 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 154

31 Mawrth 2004

2004/912 (Cy.95)

Adran 155

1 Medi 2004

2004/1728 (Cy.172)

Adran 156

31 Mawrth 2004

2004/912 (Cy.95)

Adrannau 157 i 174

1 Ionawr 2004

2003/2961 (Cy.278)

Adran 176

1 Medi 2004

2004/1728 (Cy.172)

Adran 177

1 Awst 2004

2004/912 (Cy.95)

Adran 178(1) a (4)

1 Awst 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 179 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 180

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 181 i 185

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy. 185)

Adran 188 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2003

2003/2961 (Cy.278)

Adran 189 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 191 i 194

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 195 (yn rhannol)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

(yn llawn)

1 Medi 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 196

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 197

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 198

31 Mawrth 2004

2004/912 (Cy.95)

Adran 199

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 200

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 201 (yn rhannol)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 202 a 203

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 206

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adrannau 207 a 208

9 Ionawr 2004

2003/2961 (Cy.278)

Adran 215 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

1 Awst 2003

2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667

(yn rhannol)

1 Medi 2003

2002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185)

(yn rhannol)

4 Rhagfyr 2003

2003/2961 (Cy.278)

(yn rhannol)

1 Ionawr 2004

2003/2961 (Cy.278)

(yn rhannol)

9 Ionawr 2004

2003/2961 (Cy.278)

(yn rhannol)

31 Mawrth 2004

2004/912 (Cy.95)

(yn rhannol)

1 Awst 2004

2004/912 (Cy.95) a 2004/1728 (Cy.172)

(yn rhannol)

1 Medi 2004

2004/1728 (Cy.172)

(yn rhannol)

31 Mai 2005

2005/1395 (Cy.109)

(yn rhannol)

31 Hydref 2005

2005/2910 (Cy.207)

(yn rhannol)

1 Ebrill 2006

2006/879 (Cy.84)

Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol)

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Atodlen 1 (yn llawn)

31 Hydref 2005

2005/2910 (Cy.207)

Atodlen 2

1 Ebrill 2006

2006/879 (Cy.84)

Atodlen 3, paragraffau 1 i 5

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

gweddill y paragraffau

1 Ebrill 2006

2006/879 (Cy.84)

Atodlen 4, paragraffau 1 a 4

9 Ionawr 2004

2003/2961 (Cy.278)

Paragraffau 2, 3(1), (2), (3), (4), (5), (7), (8), 8, 9, 10, 11

31 Mai 2005

2005/1395 (Cy.109)

Paragraff 12(1), (3) i (5)

31 Mawrth 2004

2004/912 (Cy.95)

Atodlen 5

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 9

1 Awst 2004

2004/1728 (Cy.172)

Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 11

1 Hydref 2002

2002/2439

Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Paragraffau 3(1), (5) (yn rhannol), 4(2) a 5

31 Mai 2006

2006/1336 (Cy.129)

Paragraff 12(1) a (2)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac (8)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 14, paragraffau 1 i 7

1 Medi 2004

2004/1728 (Cy.172)

Atodlen 16, paragraffau 1 i 3

1 Rhagfyr 2003

2003/2961 (Cy.278)

Paragraffau 4 i 9

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Paragraff 8 (yn rhannol)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Paragraffau 13 i 15

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18

1 Medi 2003

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 19

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Atodlen 20

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Atodlen 21 (yn rhannol)

1 Hydref 2002

2002/2439

(yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

1 Awst 2003

2003/1667

(yn rhannol)

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

(yn rhannol)

4 Rhagfyr 2003

2003/2961 (Cy.278)

(yn rhannol)

1 Ionawr 2004

2003/2961 (Cy.278)

(yn rhannol)

9 Ionawr 2004

2003/2961 (Cy.278)

(yn rhannol)

31 Mawrth 2004

2004/912 (Cy.95)

(yn rhannol)

1 Awst 2004

2004/1728 (Cy.172)

(yn rhannol)

1 Medi 2004

2004/1728 (Cy.172)

(yn rhannol)

31 Mai 2005

2005/1395 (Cy.109)

(yn rhannol)

31 Hydref 2005

2005/2910 (Cy.207)

(yn rhannol)

1 Ebrill 2006

2006/879 (Cy.84)

Atodlen 22 (yn rhannol)

1 Hydref 2002

2002/2439

(yn rhannol)

9 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

1 Awst 2003

2003/1718 (Cy.185)

(yn rhannol)

1 Medi 2003

2002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667

(yn rhannol)

4 Rhagfyr 2003

2003/2961 (Cy.278)

(yn rhannol)

1 Ionawr 2004

2003/2961 (Cy.278)

(yn rhannol)

9 Ionawr 2004

2003/2961 (Cy.278)

(yn rhannol)

31 Mawrth 2004

2004/912 (Cy.95)

(yn rhannol)

1 Awst 2004

2004/912 (Cy.95)

(yn rhannol)

1 Medi 2004

2004/1728 (Cy.172)

(yn rhannol)

31 Mai 2005

2005/1395 (Cy.109)

(yn rhannol)

31 Hydref 2005

2005/2910 (Cy.207)

(yn rhannol)

1 Ebrill 2006

2006/879 (Cy.84)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (wedi'i ddirymu) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/571 ac O.S. 2005/2570), O.S. 2003/2071, O.S. 2004/1318 ac O.S. 2006/2895.