Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 11 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 2 Ionawr 2008 ac ar 31 Mawrth 2008 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Caiff y darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 2 Ionawr 2008 yr effaith a ganlyn—

  • Mae cychwyn gweddill adran 18 yn diddymu pwerau amrywiol ar gyfer gwneud grantiau (a ddisodlwyd gan adran 14 a gychwynnwyd ar 31 Mawrth 2003).

  • Mae adran 26 yn galluogi Gweinidogion Cymru (y mae swyddogaethau wedi'u breinio ynddynt bellach yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006) i wneud rheoliadau sy'n caniatau i gyrff llywodraethu ysgolion gydweithredu.

  • Mae adran 31 yn ymwneud â rheoli mangreoedd ysgolion ac fe'i dygir i rym at bwrpas gwneud rheoliadau.

  • Mae adran 38 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru i roi sylw i'r ffaith ei bod yn ddymunol osgoi anfon gormodedd o ddeunyddiau at ysgolion a gosod gormodedd o feichiau gweinyddol. Bydd yn rhaid iddynt baratoi adroddiad o ran pob blwyddyn academaidd ar y dogfennau a anfonir at yr holl gyrff llywodraethu neu benaethiaid ysgolion yng Nghymru.

  • Mae adrannau 57 i 59 ac Atodlen 6 yn galluogi awdurdod addysg lleol, os bydd yn ofynnol i ysgol wella'n arwyddocaol neu os bydd yn ofynnol cael mesurau arbennig neu os yw corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio gydag hysbysiad rhybudd, i benodi corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn arbennig (a ffurfiwyd o aelodau gweithredol interim) i ddisodli corff llywodraethu presennol ysgol. Galluogir Gweinidogion Cymru hefyd i benodi corff llywodraethu o'r fath os bydd yn ofynnol i ysgol wella'n arwyddocaol neu os bydd yn ofynnol cael mesurau arbennig.

  • Mae cychwyn gweddill adran 146 yn diddymu'r cyfan o adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.

  • Darpariaethau eraill sydd o ganlyniad i gychwyn adrannau 18 a 146, ac hefyd darpariaethau sy'n gymwys i Loegr yn unig ac sydd eisoes wedi'u dwyn i rym gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond fe'u cynhwysir yn unig er mwyn sicrhau bod Deddf Addysg 2002 yn cychwyn yn llawn.

Caiff y darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2008 yr effaith a ganlyn—

  • Mae adran 31 (a gychwynir yn llawn) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynglyn â rheoli mangreoedd ysgolion.

  • Mae adran 215(2) ac Atodlen 22 (a gychwynir yn rhannol) yn cynnwys diddymiadau canlyniadol.

Mae Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources